Ardal ym Minato, Tokyo, Japan, yw Roppongi.
Mae'n ardal gefnog ac yn gartref i sîn bywyd nos bywiog. Lleolir nifer o lysgenadaethau tramor yn Roppongi ac mae'r bywyd nos a geir yno yn boblogaidd gyda gorllewinwyr; serch hynny mae'r mwyafrif llethol o drigolion Roppongi a'r ymwelwyr a'r ardal yn Japaneaidd neu'n bobl eraill o Asia. Lleolir Roppongi yn ardal ddeheuol y cylch a ddisgrifio gan y Yamanote Line, i'r de o Akasaka ac i'r gogledd o Azabu.
Mae gan nifer o gwmnïau gorllewinol eu swyddfeydd Japaneaidd yn Roppongi, yn cynnwys banciau fel Credit Suisse, Goldman Sachs, State Street a Lehman Brothers, a chwmnïau cyfreithiol fel Allen & Overy, Davis Polk & Wardwell, Orrick, Herrington & Sutcliffe, Corning Incorporated a Skadden, Arps, Slate, Meagher & Flom.
This article uses material from the Wikipedia Cymraeg article Roppongi, which is released under the Creative Commons Attribution-ShareAlike 3.0 license ("CC BY-SA 3.0"); additional terms may apply (view authors). Rhoddir testun y dudalen ar gael ar delerau'r drwydded CC BY-SA 4.0, heblaw ei fod wedi nodi'n wahanol. Images, videos and audio are available under their respective licenses.
®Wikipedia is a registered trademark of the Wiki Foundation, Inc. Wiki Cymraeg (DUHOCTRUNGQUOC.VN) is an independent company and has no affiliation with Wiki Foundation.