Rhufeinio'r iaith Japaneg yw'r broses o ddefnyddio'r wyddor Ladin i ysgrifennu yn yr iaith Japaneg.
Gelwir y dull hwn o ysgrifennu yn rōmaji (Japaneg: ローマ字), sef "llythrennau Rhufeinig".
Caiff Japaneg ei ysgrifennu fel arfer trwy ddefnyddio arwyddluniau Tsieineeg a elwir yn kanji, ynghyd â sillwyddorau yr hiragana a'r katakana sydd yn unigryw i'r iaith. Caiff rōmaji felly ei ddefnyddio yn aml mewn cyd-testun lle mae angen cyfathrebu â darllenwyr nad sy'n medru'r Japaneg; er enghraifft mewn pasbort, ar arwyddion ffyrdd neu mewn geiriaduron ar gyfer dysgwyr.
This article uses material from the Wikipedia Cymraeg article Rhufeinio'r iaith Japaneg, which is released under the Creative Commons Attribution-ShareAlike 3.0 license ("CC BY-SA 3.0"); additional terms may apply (view authors). Rhoddir testun y dudalen ar gael ar delerau'r drwydded CC BY-SA 4.0, heblaw ei fod wedi nodi'n wahanol. Images, videos and audio are available under their respective licenses.
®Wikipedia is a registered trademark of the Wiki Foundation, Inc. Wiki Cymraeg (DUHOCTRUNGQUOC.VN) is an independent company and has no affiliation with Wiki Foundation.