Adeilad hanesyddol rhestredig gradd II yng nghanol Wrecsam, gogledd-ddwyrain Cymru, yw Rhifau 14-15, Stryt Fawr.
Math | tafarn |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Lleoliad | Parc Caia, Wrecsam |
Sir | Rhos-ddu, Wrecsam |
Gwlad | Cymru |
Uwch y môr | 80.7 metr |
Cyfesurynnau | 53.04523°N 2.99186°W |
Cod post | LL13 8HP |
Statws treftadaeth | adeilad rhestredig Gradd II |
Manylion | |
Mae rhifau 14-15 Stryt Fawr yn sefyll ar ochr ogleddol y stryd, ger y gyffordd â Stryt Yorke a Stryt Caer. Mae'r adeilad yn rhan o grŵp o adeiladau mawreddog, efo gwesty'r Wynnstay Arms ar Stryt Yorke, yr adeilad Alliance Assurance (rhif 29 Stryt Fawr) a Marchnad y Cigyddion.
Adeiladwyd rhifau 14-15 Stryt Fawr yn 1910-1912 gan Woolfall & Eccles yn ar arddull Palazzo ar gyfer y Banc Gogledd a Deheudir Cymru (“North & South Wales Bank”). Roedd cynllun gwreiddiol Woolfall & Eccles ar gyfer adeilad yn yr arddull Gothig, ond cafodd y darlun ei wrthod gan y Banc Midland, a oedd wedi cymryd drosodd y banc yn y cyfamser.
Roedd y safle wedi cael ei gwerthu ar gyfer y banc yn 1905. Ar gyfer ei swyddfa yn Wrecsam, roedd y banc wedi defnyddio nifer o swyddfeydd gwahanol ar y Stryt Fawr, yn cynnwys rhif 29, yr adeilad Alliance Assurance.
Yn 1908, unodd y Banc Gogledd a Deheudir Cymru â Banc y Midland. O ganlyniad mae'r adeilad yn cael ei adnabod hefyd fel “the Midland Bank building”. Roedd yr adeilad yn parhau i gael ei ddefnyddio fel banc tan 1999. Ers 1999, mae'r adeilad wedi bod yn dafarn.
Mae gan yr adeilad, sydd yn yr arddull palazzo Baróc, ffasâd o dywodfaen melyn gyda phileri gwenithfaen ar y llawr gwaelod.
Uwchben un o ddrysau'r adeilad mae'n dal yn bosib darllen yr arysgrif “Midland Bank Chambers”.
This article uses material from the Wikipedia Cymraeg article Rhifau 14-15, Stryt Fawr, Wrecsam, which is released under the Creative Commons Attribution-ShareAlike 3.0 license ("CC BY-SA 3.0"); additional terms may apply (view authors). Rhoddir testun y dudalen ar gael ar delerau'r drwydded CC BY-SA 4.0, heblaw ei fod wedi nodi'n wahanol. Images, videos and audio are available under their respective licenses.
®Wikipedia is a registered trademark of the Wiki Foundation, Inc. Wiki Cymraeg (DUHOCTRUNGQUOC.VN) is an independent company and has no affiliation with Wiki Foundation.