Pont garreg fwaog sy'n croesi Afon Hafren yn nhref Amwythig, Gorllewin Canolbarth Lloegr, yw Pont y Cymry.
Mae'n cysylltu maestref Frankwell â chanol y dref. Mae'n adeilad rhestredig Gradd II*.
Math | pont garreg fwaog, pont ffordd |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Sir | Amwythig |
Gwlad | Lloegr |
Cyfesurynnau | 52.7102°N 2.75809°W |
Cod OS | SJ4888012771 |
Statws treftadaeth | adeilad rhestredig Gradd II* |
Manylion | |
Cynlluniwyd ac adeiladwyd y bont o 1793 hyd 1795 gan John Tilley a John Carline (yr oedd ei dad o'r un enw yn saer maen ar Bont y Saeson). Nhw hefyd a adeiladodd pont Montford Bridge i Thomas Telford. Disodlodd Pont y Cymry bont ganoloesol o'r enw Pont Sant George.
Mae pedwar o'r bwâu yn rhychwantu 43 troedfedd 4 modfedd, ac mae'r pumed bwa a'r bwa canolog yn rhychwantu 46 troedfedd 2 fodfedd. Mae'r bont yn 30 troedfedd o led, ac wedi'i hadeiladu o dywodfaen Grinshill. Mae'n 266 troedfedd o hyd. Fe'i cwblhawyd yn 1795 ar gost o £8,000.
Ar ei phen deheuol, ar y gyffordd â Victoria Avenue, mae'r geiriau "Commit No Nuisance" wedi ei naddu i garreg un o'r parapetau. Mae hyn yn waharddiad hynafol rhag pasio dŵr yn gyhoeddus.
This article uses material from the Wikipedia Cymraeg article Pont y Cymry, which is released under the Creative Commons Attribution-ShareAlike 3.0 license ("CC BY-SA 3.0"); additional terms may apply (view authors). Rhoddir testun y dudalen ar gael ar delerau'r drwydded CC BY-SA 4.0, heblaw ei fod wedi nodi'n wahanol. Images, videos and audio are available under their respective licenses.
®Wikipedia is a registered trademark of the Wiki Foundation, Inc. Wiki Cymraeg (DUHOCTRUNGQUOC.VN) is an independent company and has no affiliation with Wiki Foundation.