Protest gan fyfyrwyr ac ymgyrchwyr dros gyfiawnder yn Mecsico oedd Poner el Cuerpo, Sacar la Voz ('Defnyddio ein Cyrff; Mynegiant ein Llais') neu sy'n cael ei alw weithiau'n Ayotzinapa 43.
Mae Poner el Cuerpo yn ymateb i'r ffaith fod nifer o fyfyrwyr yn ninas Iguala wedi diflannu.
Ymateb Twrnai Cyffredinol Mecsico oedd i'r myfyrwyr hyn gael eu llofruddio gan gang cyffuriau, ond barn llawer yw fod y Llywodraeth wedi cydweithio gyda'r gang. Mewn protest yn erbyn hyn, ac er mwyn dwyn sylw i'r mater, aeth un ffotograffydd ati i dynnu lluniau o ferched a bechgyn noeth gyda "Ya Me Cansé" ('Dw i wedi blino') dros eu cyrff.
Edgar Olguín ydy'r ffotograffydd, a gyda model o'r enw Sara Yatziri Guerrero Juárez, aeth y ddau ati i dynnu sylw'r byd at y 43 myfyrwyr sydd wedi diflannu o goleg hyfforddi athrawon Raúl Isidro Burgos. Yn ôl Edgar, "Mae'n fwy o sioc i ddarllenwyr papur newydd weld llun o gorff noeth nag ydy pan mae nhw'n gweld rhan o gorff marw wedi'i dorri'n ddarnau."
This article uses material from the Wikipedia Cymraeg article Poner el Cuerpo, Sacar la Voz, which is released under the Creative Commons Attribution-ShareAlike 3.0 license ("CC BY-SA 3.0"); additional terms may apply (view authors). Rhoddir testun y dudalen ar gael ar delerau'r drwydded CC BY-SA 4.0, heblaw ei fod wedi nodi'n wahanol. Images, videos and audio are available under their respective licenses.
®Wikipedia is a registered trademark of the Wiki Foundation, Inc. Wiki Cymraeg (DUHOCTRUNGQUOC.VN) is an independent company and has no affiliation with Wiki Foundation.