Yn draddodiadol, Pennaeth Staff y Tŷ Gwyn (Saesneg: White House Chief of Staff) yw'r gweithiwr uchaf yn y Tŷ Gwyn.
Mae'r swydd yn olynydd modern i rôl gynharach o'r enw Ysgrifennydd Preifat yr Arlywydd. Ffurfiolwyd y rôl newydd o dan yr enw Cynorthwy-ydd i'r Arlywydd yn 1946, gan gymryd ei henw presennol ers 1961.
Penodir Pennaeth Staff y Tŷ Gwyn gan yr Arlywydd a gwasanaetha er pleser yr Arlywydd; nid oes rhaid i'r Senedd gadarnhau'r penodiad. Un o swyddogaethau'r rôl yw bod yn bennaeth ar Swyddfa Weithredol Arlywydd yr Unol Daleithiau a gynhwysa Swyddfa'r Tŷ Gwyn.
Ron Klain yw'r Pennaeth Staff y Tŷ Gwyn presennol, yn ei swydd ers 20 Ionawr 2021.
This article uses material from the Wikipedia Cymraeg article Pennaeth Staff y Tŷ Gwyn, which is released under the Creative Commons Attribution-ShareAlike 3.0 license ("CC BY-SA 3.0"); additional terms may apply (view authors). Rhoddir testun y dudalen ar gael ar delerau'r drwydded CC BY-SA 4.0, heblaw ei fod wedi nodi'n wahanol. Images, videos and audio are available under their respective licenses.
®Wikipedia is a registered trademark of the Wiki Foundation, Inc. Wiki Cymraeg (DUHOCTRUNGQUOC.VN) is an independent company and has no affiliation with Wiki Foundation.