Affricanwr a gafodd ei werthu'n gaethwas ac yn hwyrach ei ryddhau oedd Olaudah Equiano (tua 1745 – 31 Mawrth 1797).
Ysgrifennodd gofiant, The Interesting Narrative of the Life of Olaudah Equiano; or, Gustavus Vassa, the African, Written by Himself (1789), oedd yn ddylanwadol yn y mudiad diddymiaeth i wahardd y fasnach gaethweision.
Olaudah Equiano | |
---|---|
Ganwyd | c. 1745 Isseke |
Bu farw | 31 Mawrth 1797 Dinas Westminster |
Galwedigaeth | ysgrifennwr, hunangofiannydd, barber, masnachwr, actor |
Adnabyddus am | The Interesting Narrative of the Life of Olaudah Equiano jr the third |
Arddull | hunangofiant, sylwebaeth gymdeithasol |
Plant | Joanna Vassa |
Ansicr yw ei fan geni. Honnodd Equiano iddo gael ei eni yn nhref o'r enw Essaka yng Ngorllewin Affrica, sydd o bosib yn Isseke yn Nigeria. Yn ei lyfr mae'n disgrifio cael ei gipio pan oedd yn 11 oed - i India'r Gorllewin ac yna Virginia. Mae rhai ysgolheigion modern yn credu iddo gael ei eni yng Ngogledd America. Treuliodd flynyddoedd olaf ei oes yn Stryd Paddington, Middlesex, ble y bu farw.
Ym mis Tachwedd 1996 sefydlwyd Cymdeithas Equiano yn Llundain gyda'r nod o hyrwyddo gwybodaeth amdano ac am ei waith.
This article uses material from the Wikipedia Cymraeg article Olaudah Equiano, which is released under the Creative Commons Attribution-ShareAlike 3.0 license ("CC BY-SA 3.0"); additional terms may apply (view authors). Rhoddir testun y dudalen ar gael ar delerau'r drwydded CC BY-SA 4.0, heblaw ei fod wedi nodi'n wahanol. Images, videos and audio are available under their respective licenses.
®Wikipedia is a registered trademark of the Wiki Foundation, Inc. Wiki Cymraeg (DUHOCTRUNGQUOC.VN) is an independent company and has no affiliation with Wiki Foundation.