Actor ac awdur o Lundain, Lloegr yw Syr Maurice Joseph Micklewhite, Jr.
Mae'n adnabyddus am ei acen Cocni cryf ac mae wedi serennu mewn 115 neu ragor o ffilmiau. Ystyrir ef fel un o brif actorion Lloegr.
Michael Caine | |
---|---|
Llais | Michael Caine BBC Radio4 Front Row 29 Sept 2010 b00tyv8c.flac |
Ganwyd | Maurice Joseph Micklewhite 14 Mawrth 1933 Rotherhithe |
Man preswyl | Windsor |
Dinasyddiaeth | Lloegr |
Alma mater | |
Galwedigaeth | actor ffilm, ysgrifennwr, hunangofiannydd, actor llwyfan, actor teledu, actor |
Priod | Shakira Micklewhite, Patricia Haines |
Gwobr/au | CBE, Gwobr Donostia, Gwobr Cymdeithas Academi BAFTA, Gwobr yr Academi i'r Actor-gynorthwyydd Gorau, Gwobr yr Academi i'r Actor-gynorthwyydd Gorau, Commandeur des Arts et des Lettres, Gwobr BAFTA am Actor Gorau mewn Prif Rhan, Gwobr Golden Globe am Actor Gorau - Ffilm Sioe-gerdd neu Gomedi, Gwobr y Golden Globe i'r Actor Gorau - Cyfres Bitw neu Ffilm Deledu, Gwobr Golden Globe am Actor Gorau - Ffilm Sioe-gerdd neu Gomedi, Britannia Awards, Gwobr Ffilm Ewropeaidd am Actor Gorau, European Film Academy Honorary Award, Marchog Faglor, Gwobr Cymdeithas Actorion Sgrîn |
Gwefan | https://www.michaelcaine.com/ |
Daeth i'r amlwg yn y 1960au gyda ffilmiau megis: Zulu (1964), The Ipcress File (1965), Alfie (1966) (cynigiwyd ei enw am Gwobrau'r Academi), The Italian Job (1969), a Battle of Britain (1969). Yn y 1970au serenodd yn Get Carter (1971), Sleuth (1972), The Man Who Would Be King (1975), a A Bridge Too Far (1978). Yn y 1980au, fodd bynnag, y cafodd y canmoliaeth mwyaf a hynny gydag Educating Rita (1983) pan dderbyniodd Wobr BAFTA am yr actor gorau mewn rol blaenllaw a'r Golden Globe am yr Actor Gorau. Ym 1986 derbyniodd Wobr Academi am Actor Cynorthwyol am ei rôl yn Hannah and Her Sisters.
Yn 2022 bu'n ffilmio The Great Escaper gyda Glenda Jackson. Rhyddhawyd y ffilm ar 6 Hydref 2023 a cadarnhaodd ar 13 Hydref y byddai yn ymddeol o actio, yn 90 mlwydd oed.
This article uses material from the Wikipedia Cymraeg article Michael Caine, which is released under the Creative Commons Attribution-ShareAlike 3.0 license ("CC BY-SA 3.0"); additional terms may apply (view authors). Rhoddir testun y dudalen ar gael ar delerau'r drwydded CC BY-SA 4.0, heblaw ei fod wedi nodi'n wahanol. Images, videos and audio are available under their respective licenses.
®Wikipedia is a registered trademark of the Wiki Foundation, Inc. Wiki Cymraeg (DUHOCTRUNGQUOC.VN) is an independent company and has no affiliation with Wiki Foundation.