Uchelwraig Seisnig oedd Maud de Braose, Baroness Mortimer neu Matilda de Braose (1224 – ychydig cyn 23 Mawrth 1301) ac aelod o deulu pwerus de Braos (Cymreigiad: Brewys), a oedd yn berchen llawer o dir Arglwyddiaethau'r Mers.
Ei gŵr oedd Roger Mortimer, Barwn 1af Mortimer, milwr enwog a barwn.
Maud de Braose | |
---|---|
Mynedfa adfeilion Castell Wigmore, Swydd Henffordd a fu'n gartef i Maud a Roger Mortimer. | |
Ganwyd | 1224 Cymru |
Bu farw | 23 Mawrth 1301 Swydd Henffordd |
Tad | Gwilym Brewys |
Mam | Eva Marshal |
Priod | Roger Mortimer, Barwn 1af Mortimer |
Plant | Edmund Mortimer, Roger de Mortimer, Isabella Mortimer, Margaret de Mortimer, Sir Ralph Mortimer, Sir William Mortimer, Sir Geoffrey Mortimer |
Llinach | Teulu Mortimer |
Roedd Maud a'i theulu'n deyrngar iawn i frenin Lloegr yn ystod Ail Ryfel y Barwniaid, a chynllwyniodd i ryddhau'r Tywysog Edward o grafangau Simon de Montfort, 6ed iarll Swydd Gaerlŷr.
Cafodd ei geni yng Nghymru yn 1224, yr ail ferch i'r arglwydd William de Braose (neu yn Gymraeg Gwilym Brewys) ac Eva Marshal. Roedd ganddi dair chwaer: Isabella (gwraig Dafydd ap Llywelyn), Eva (gwraig William de Cantilupe) ac Eleanor (gwraig Humphrey de Bohun). Pan oedd yn chwech oed, ar 2 Mai 1230 crogwyd ei thad gan y Tywysog Llywelyn Fawr am iddo gael affêr efo'i wraig Siwan. Ei thaid ar ochr ei mam oedd William Marshal, Iarll 1af Penfro.
This article uses material from the Wikipedia Cymraeg article Maud de Braose, which is released under the Creative Commons Attribution-ShareAlike 3.0 license ("CC BY-SA 3.0"); additional terms may apply (view authors). Rhoddir testun y dudalen ar gael ar delerau'r drwydded CC BY-SA 4.0, heblaw ei fod wedi nodi'n wahanol. Images, videos and audio are available under their respective licenses.
®Wikipedia is a registered trademark of the Wiki Foundation, Inc. Wiki Cymraeg (DUHOCTRUNGQUOC.VN) is an independent company and has no affiliation with Wiki Foundation.