Mae Mastodon yn feddalwedd cod agored am ddim ar gyfer gwasanaethau rhwydweithio cymdeithasol hunangynhaliol.
Mae ganddo nodweddion meicroblogio, a gynigir gan nifer fawr o nodau annibynnol, pob un â'i god ymddygiad ei hun, telerau gwasanaeth, polisi preifatrwydd, opsiynau preifatrwydd, a pholisïau cymedroli.
Enghraifft o'r canlynol | gwasanaeth gwe, meddalwedd am ddim, rhwydwaith cymdeithasol a rennir, meddalwedd gweinydd, cymuned arlein |
---|---|
Rhan o | Fediverse |
Iaith | ieithoedd lluosog |
Dyddiad cyhoeddi | 5 Hydref 2016 |
Dechrau/Sefydlu | 16 Mawrth 2016 |
Statws hawlfraint | dan hawlfraint |
Gwladwriaeth | yr Almaen |
Gwefan | https://joinmastodon.org/ |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Mae pob defnyddiwr yn aelod o weinydd Mastodon penodol, sy'n gallu rhyngweithio fel rhwydwaith cymdeithasol ffederal, gan ganiatáu i ddefnyddwyr ar wahanol gweinyddion ryngweithio â'i gilydd. Bwriad hyn yw rhoi'r hyblygrwydd i ddefnyddwyr ddewis gweinydd yn ôl ei bolisïau, ond cadw mynediad at rwydwaith cymdeithasol ehangach. Mae Mastodon hefyd yn rhan o gasgliad llwyfannau'r Fediverse, sy'n rhannu protocolau i alluogi ddefnyddwyr Mastodon ryngweithio â defnyddwyr ar lwyfannau cydnaws, megis PeerTube a Friendica.
Mae Mastodon yn cael ei ariannu yn dorfol a nad yw'n cynnwys hysbysebion.
Mae masgot Mastodon yn anifail â boncyff, sy'n debyg i fastodon neu famoth. Weithiau, darlunir y masgot â thabled neu ffôn clyfar. Defnyddiwyd "toots" (neu "tŵts") yn y gorffennol i olygu negeseuon ar y gwasanaeth, ond defnyddir "postiadau" bellach. Crëwyd Mastodon gan Eugen Rochko a chyhoeddwyd y gwasanaeth ar Hacker News yn Hydref 2016.
This article uses material from the Wikipedia Cymraeg article Mastodon (meddalwedd), which is released under the Creative Commons Attribution-ShareAlike 3.0 license ("CC BY-SA 3.0"); additional terms may apply (view authors). Rhoddir testun y dudalen ar gael ar delerau'r drwydded CC BY-SA 4.0, heblaw ei fod wedi nodi'n wahanol. Images, videos and audio are available under their respective licenses.
®Wikipedia is a registered trademark of the Wiki Foundation, Inc. Wiki Cymraeg (DUHOCTRUNGQUOC.VN) is an independent company and has no affiliation with Wiki Foundation.