Llyn bychan yn ne Gwynedd yw Llyn Gafr.
Fe'i lleolir i'r gogledd o gopa Cadair Idris tua 3 milltir i'r de o dref Dolgellau.
Math | llyn |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Sir | Gwynedd |
Gwlad | Cymru |
Cyfesurynnau | 52.7097°N 3.91066°W |
Saif y llyn 1,600 troedfedd i fyny ar lethrau gogleddol Cadair Idris tua hanner milltir i'r gogledd o Llyn y Gadair. Mae "Llwybr y Llwynog" neu "Llwybr y Cadno" (y Fox's Path), y llwybr mwayf poblogaidd i ddringo i gopa Cadair Idris, yn mynd heibio'n agos i lan y llyn.
Mae ffrwd yn llifo o'r llyn i lifo i Afon Mawddach yn is i lawr yn Abergwynant.
Ceir sawl ffurf ar enw'r llyn hwn. Ar y map Arolwg Ordnans ceir "Llyn-y-Gafr" ond gan fod gafr yn air benywaidd byddai disgwyl cael ffurf fel "Llyn yr Afr" yn hytrach na "Llyn y Gafr". Yn Atlas Meirionnydd ceir y ffurf "Llyn Gafr". "Llyn Gafr" yw'r ffurf a geir gan Ioan Bowen Rees yn ei gyfrol Dringo Mynyddoedd Cymru hefyd.
This article uses material from the Wikipedia Cymraeg article Llyn Gafr, which is released under the Creative Commons Attribution-ShareAlike 3.0 license ("CC BY-SA 3.0"); additional terms may apply (view authors). Rhoddir testun y dudalen ar gael ar delerau'r drwydded CC BY-SA 4.0, heblaw ei fod wedi nodi'n wahanol. Images, videos and audio are available under their respective licenses.
®Wikipedia is a registered trademark of the Wiki Foundation, Inc. Wiki Cymraeg (DUHOCTRUNGQUOC.VN) is an independent company and has no affiliation with Wiki Foundation.