Lleolir Llyfrgell Genedlaethol yr Alban (Gaeleg yr Alban: Leabharlann Nàiseanta na h-Alba, Saesneg: National Library of Scotland, Sgoteg: Naitional Leebrar o Scotland) yng Nghaeredin.
Mae'n un o chwe llyfrgell adnau cyfreithiol yn y Deyrnas Unedig ac Iwerddon. Delir yno dros 15 miliwn o eitemau argraffiedig, saith miliwn o lawysgrifau, dau filiwn o fapiau a thros 32,000 ffilm.
Math | llyfrgell genedlaethol, archifdy cenedlaethol |
---|---|
Sefydlwyd | |
Daearyddiaeth | |
Rhan o'r canlynol | Llywodraeth yr Alban |
Lleoliad | Caeredin |
Sir | Caeredin |
Gwlad | Yr Alban |
Cyfesurynnau | 55.9487°N 3.19173°W |
Fe'i sefydlwyd yn 1925, yn seiliedig ar gasgliad Llyfrgell yr Adfocadau (Advocates Library neu Library of the Faculty of Advocates), a sefydlwyd yn y 1680au cynnar. O dan delerau Deddf Hawlfraint 1710 roedd y llyfrgell hon yn hawlio copi o bob llyfr a gyhoeddwyd yng ngwledydd Prydain. Yn dilyn y ddeddf seneddol a greodd y Llyfrgell Genedlaethol ym 1925, codwyd adeilad newydd ar ei chyfer ar George IV Bridge rhwng 1938 a 1956, gydag ysbaid yn ystod yr Ail Ryfel Byd. Agorodd adeilad ychwanegol yn Causewayside mewn dau gam, ym 1989 ac ym 1995.
This article uses material from the Wikipedia Cymraeg article Llyfrgell Genedlaethol yr Alban, which is released under the Creative Commons Attribution-ShareAlike 3.0 license ("CC BY-SA 3.0"); additional terms may apply (view authors). Rhoddir testun y dudalen ar gael ar delerau'r drwydded CC BY-SA 4.0, heblaw ei fod wedi nodi'n wahanol. Images, videos and audio are available under their respective licenses.
®Wikipedia is a registered trademark of the Wiki Foundation, Inc. Wiki Cymraeg (DUHOCTRUNGQUOC.VN) is an independent company and has no affiliation with Wiki Foundation.