Llu milwrol sy'n gyfrifol am ymgyrchoedd Unol Daleithiau America yn y gofod yw Llu Gofod yr Unol Daleithiau (Saesneg: United States Space Force, USSF) sydd yn un o chwe changen Lluoedd Arfog yr Unol Daleithiau.
Er nad yw'n rhan o Awyrlu'r Unol Daleithiau, fe'i rheolir gan Adran Awyrlu'r Unol Daleithiau. Hon yw'r gangen leiaf o'r lluoedd arfog Americanaidd, a chanddi 8,600 o aelodau yn Ionawr 2023. Sefydlwyd yr USSF ar 20 Rhagfyr 2019 wedi i'r Arlywydd Donald Trump arwyddo'r Ddeddf i Awdurdodi Amddiffyn Cenedlaethol ar gyfer Blwyddyn Gyllidol 2020.
Sêl Llu Gofod yr Unol Daleithiau | |
Enghraifft o'r canlynol | space force |
---|---|
Rhan o | Lluoedd Arfog yr Unol Daleithiau |
Dechrau/Sefydlu | 20 Rhagfyr 2019 |
Yn cynnwys | Space Operations Command |
Pennaeth y sefydliad | Chief of Space Operations |
Gweithwyr | 2,501 |
Rhiant sefydliad | United States Department of the Air Force |
Pencadlys | Y Pentagon |
Gwladwriaeth | Unol Daleithiau America |
Rhanbarth | Arlington County |
Gwefan | https://www.spaceforce.mil/ |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Rhennir yr USSF yn dair prif adran: Rheolaeth Ymgyrchoedd Gofod (SpOC), sy'n gyfrifol am ymgyrchoedd yn y gofod, gan gynnwys rheoli lloerennau, rhybuddio am daflegrau, cadw golwg ar sbwriel sy'n cylchdroi'r Ddaear, ac amddiffyn rhag ymosodiadau'r gelyn o'r gofod; Rheolaeth Systemau Gofod (SSC), sy'n cynhyrchu, comisiynu a datblygu systemau gofod, gan gynnwys lloerennau, cerbydau lansio, a gorsafoedd rheolaeth o'r ddaear; a Rheolaeth Hyfforddiant a Pharodrwydd Gofod (STARCOM), sy'n gyfrifol am hyfforddiant, addysg, a datblygiad proffesiynol aelodau'r Llu Gofod.
Hwn ydy un o chwe llu gofod cenedlaethol yn y byd, a'r unig un sydd yn annibynnol ar ganghennau eraill y lluoedd arfog—mae lluoedd tebyg yn Ffrainc, Iran, Rwsia, a Sbaen ynghlwm wrth yr awyrlu neu gangen awyrofod, ac mae llu gofod Gweriniaeth Pobl Tsieina yn rhan o'r Llu Cefnogol Strategol.
This article uses material from the Wikipedia Cymraeg article Llu Gofod yr Unol Daleithiau, which is released under the Creative Commons Attribution-ShareAlike 3.0 license ("CC BY-SA 3.0"); additional terms may apply (view authors). Rhoddir testun y dudalen ar gael ar delerau'r drwydded CC BY-SA 4.0, heblaw ei fod wedi nodi'n wahanol. Images, videos and audio are available under their respective licenses.
®Wikipedia is a registered trademark of the Wiki Foundation, Inc. Wiki Cymraeg (DUHOCTRUNGQUOC.VN) is an independent company and has no affiliation with Wiki Foundation.