Lao neu Laoseg (ພາສາລາວ phaasaa laao) yw iaith sywddogol gwlad Laos.
Iaith donog ydyw sy'n perthyn i'r teulu Tai o ieithoedd. Mae'n perthyn mor agos i iaith Isaan gogledd Gwlad Tai fel bod y ddwy weithiau'n cael eu dosbarthu fel amrywiadau ar yr un iaith.
Enghraifft o'r canlynol | iaith, iaith fyw |
---|---|
Math | Kra–Dai |
Enw brodorol | ພາສາລາວ |
Nifer y siaradwyr | |
cod ISO 639-1 | lo |
cod ISO 639-2 | lao |
cod ISO 639-3 | lao |
Gwladwriaeth | Cambodia, Laos |
System ysgrifennu | Lao |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Mae gwyddor yr iaith Lao yn "abugida" (cyfundrefn ysgrifennu o arwyddion gwahanol sy'n dynodi cytseiniaid gyda llafariad dilynol cynhenid) ac mae'n perthyn i'r ffordd Thai o ysgrifennu er nad yw'r ddwy gyfundrefn yr un fath.
Gellir rhannu'r iaith Lao i bum tafodiaith wahanol:
Y fersiwn a siaredir yn y brifddinas Vientiane yw'r dafodiaith uwch ei bri gan ei bod yn cael ei defnyddio yn y cyfryngau ac fe'i dëelir trwy Laos ac ar y cyfan mae'r tafodieithoedd, er gwaethaf y gwahaniaethau rhyngddynt yn weddol ddealladwy i bawb hefyd.
This article uses material from the Wikipedia Cymraeg article Lao (iaith), which is released under the Creative Commons Attribution-ShareAlike 3.0 license ("CC BY-SA 3.0"); additional terms may apply (view authors). Rhoddir testun y dudalen ar gael ar delerau'r drwydded CC BY-SA 4.0, heblaw ei fod wedi nodi'n wahanol. Images, videos and audio are available under their respective licenses.
®Wikipedia is a registered trademark of the Wiki Foundation, Inc. Wiki Cymraeg (DUHOCTRUNGQUOC.VN) is an independent company and has no affiliation with Wiki Foundation.