Awdures o Ddenmarc oedd y farwnes Karen Christenze von Blixen-Finecke neu fel arfer, Karen Blixen, (17 Ebrill 1885 - 7 Medi 1962) sy'n cael ei hystyried yn nodigedig am ei gwaith fel awdur a hunangofiannydd.
Ysgrifennai yn y Ddaneg a'r Saesneg; defnyddiai'r enw-awdur 'Isak Dinesen' ar lyfrau a gyhoeddwyd yn y gwledydd Almaeneg eu hiaith, ac ar adegau defnyddiai 'Osceola' a 'Pierre Andrézel'.
Karen Blixen | |
---|---|
Ffugenw | Tania Blixen, Isak Dinesen, Pierre Andrézel, Osceola |
Ganwyd | Karen Christentze Dinesen 17 Ebrill 1885 Rungstedlund, Rungsted |
Bu farw | 7 Medi 1962 Rungstedlund, Copenhagen |
Dinasyddiaeth | Denmarc |
Galwedigaeth | ysgrifennwr, hunangofiannydd, awdur storiau byrion, bardd, arlunydd |
Adnabyddus am | Out of Africa, Babette's Feast |
Arddull | rhamantiaeth-newydd, llenyddiaeth Gothig, realaeth hudol |
Tad | Wilhelm Dinesen |
Mam | Ingeborg Dinesen |
Priod | Bror von Blixen-Finecke |
Gwobr/au | Gwobr Beirniaid Daneg ar gyfer Llenyddiaeth, Gwobr Tagea Brandt Rejselegat, Ingenio et Arti, Medal Holberg, De Gyldne Laurbær |
Gwefan | http://karenblixen.com |
llofnod | |
Ymhlith y gwaith pwysig a nodedig yr ysgrifennodd y mae: Out of Africa sy'n fywgraffiad o'r cyfnod pan roedd yn byw yn Cenia, a Babette's Feast; troswyd y ddau lyfr ar gyfer y sgrin mawr. Derbyniodd y ddwy ffilm, hefyd Wobr yr Academi. Yn Denmarc mae'n nodedig am ei chyfrol 'Saith Chwedl Gothig' (Syv Fantastiske Fortællinger; 1934).
Ystyriwyd Blixen sawl tro am Wobr Lenyddol Nobel.
Ganed Karen Dinesen ym mhlasty Rungstedlund, gogledd Copenhagen ar 17 Ebrill 1885 a bu farw yno hefyd; fe'i claddwyd yn Rungstedlund. Roedd ei thad, Wilhelm Dinesen (1845-1895), yn awdur, swyddog y fyddin o deulu a oedd yn dirfeddiannwyr cefnog yn ardal Jutland a oedd â chysylltiad agos â brenhiniaeth Denmarc, yr eglwys a gwleidyddiaeth geidwadol. Daeth ei mam, Ingeborg Westenholz (1856-1939), o deulu o fasnachwr bourgeois cyfoethog. Karen Dinesen oedd yr ail hynaf mewn teulu o dair chwaer a dau frawd. Tyfodd ei brawd iau, Thomas Dinesen, i ennill Croes Victoria yn y Rhyfel Byd Cyntaf.
Dylanwadwyd ar y Dinesen ifanc gan ffordd hamddenol ei thad a'i gariad at yr awyr agored. Ysgrifennodd drwy gydol ei oes a daeth ei hunangofiant, Boganis Jagtbreve (Llythyrau o'r Helfa) yn glasur bach yn llenyddiaeth Daneg. Rhwng Awst 1872 a Rhagfyr 1873, roedd William wedi byw ymhlith Indiaid Chippewa yn Wisconsin, a thadogodd ferch gan un o'r indiaid. Ar ôl iddo ddychwelyd i Ddenmarc, dioddefodd o syffilis a arweiniodd at gyfnodau o iselder ysbryd dwfn. Er hyn, bu iddo dadogi merch gan y forwyn Anna Rasmussen, gan dorri ei addewid i fod yn ffyddlon i'w wraig. Crogodd ei hun ar 28 Mawrth 1895 pan oedd Karen bron yn ddeg oed.
Yn wahanol i'w brodyr, a fynychodd yr ysgol, cafodd ei haddysgu gartref gan ei mam-gu o ochr ei mam, a'i modryb Mary B. Westenholz, a fagodd hi yn nhraddodiad cadarn yr Undodiaid. Dylanwadwyd ar Dinesen gan Fodryb Bess, fel y galwai Westenholz. Roedd eu trafodaethau'n fywiog, eang a thwfn ar hawliau merched a'r berthynas rhwng dynion a merched.
Ym 1898, treuliodd Dinesen a'i dwy chwaer flwyddyn yn y Swistir, lle dysgodd siarad Ffrangeg. Yn 1902, aeth i ysgol gelf Charlotte Sode yn Copenhagen cyn parhau â'i hastudiaethau yn Academi Celfyddydau Cain Brenhinol Denmarc, o dan Viggo Johansen o 1903 i 1906. Yn ei chanol-oed, ymwelodd hefyd â Pharis, Llundain a Rhufain.
Bu'n briod i farwn Bror von Blixen-Finecke. Roedd Aage Westenholz (1859–1935) yn ewyrth i'r ddau ohonynt, ac awgrymodd y gallent sefydlu fferm goffi yn Siam, a buddsoddodd yn y fenter: 150,000 Coron Daneg. Yn gynnar ym 1913, gadawodd Bror Blixen-Finecke i Kenya. Dilynwyd ef gan ei ddyweddi ym mis Rhagfyr.
Bu farw Blixen, o ddiffyg maeth, yn Rungstedlund, yn 77 oed.
Mae archif Karen Blixen yn Llyfrgell Frenhinol Denmarc, ac mae'n cynnwys cerddi heb eu cyhoeddi, dramâu a straeon byrion. Yn ei harddegau ac yn ei hugeiniau cynnar, mae'n debyg iddi dreulio llawer o'i hamser hamdden yn ymarfer y grefft o ysgrifennu. Dim ond pan oedd hi'n 22 oed y penderfynodd gyhoeddi rhai straeon byrion mewn cylchgronau llenyddol, gan fabwysiadu'r enw-awdur Osceola, sef enw ci ei thad.
Bu'n aelod o Academi Celfyddydau Cain Bafaria am rai blynyddoedd.
This article uses material from the Wikipedia Cymraeg article Karen Blixen, which is released under the Creative Commons Attribution-ShareAlike 3.0 license ("CC BY-SA 3.0"); additional terms may apply (view authors). Rhoddir testun y dudalen ar gael ar delerau'r drwydded CC BY-SA 4.0, heblaw ei fod wedi nodi'n wahanol. Images, videos and audio are available under their respective licenses.
®Wikipedia is a registered trademark of the Wiki Foundation, Inc. Wiki Cymraeg (DUHOCTRUNGQUOC.VN) is an independent company and has no affiliation with Wiki Foundation.