Awdures Almaenig yw Juli Zeh (ganwyd 30 Mehefin 1974) sy'n cael ei hystyried yn nodigedig am ei gwaith fel cyfreithegydd, bardd-gyfreithiwr ac awdur ffuglen wyddonol.
Juli Zeh | |
---|---|
Ffugenw | Manfred Gortz |
Ganwyd | 30 Mehefin 1974 Bonn |
Dinasyddiaeth | Yr Almaen |
Alma mater |
|
Galwedigaeth | cyfreithegwr, ysgrifennwr, awdur ffuglen wyddonol, awdur ysgrifau |
Blodeuodd | 2019 |
Swydd | barnwr |
Adnabyddus am | Dark Matter, Gaming Instinct, The Method, Alles auf dem Rasen, Unterleuten, New Year |
Arddull | rhyddiaith, drama, utopian and dystopian fiction, traethawd |
Plaid Wleidyddol | Plaid Sosialaidd, Democrataidd yr Almaen |
Tad | Wolfgang Zeh |
Priod | David Finck |
Gwobr/au | Gwobr Per Olov Enquist, Rauriser Literaturpreis, Gwobr Llenyddiaeth Solothurn, Caroline-Schlegel-Preis, Deutscher Bücherpreis, Förderpreis zum Literaturpreis der Stadt Bremen, Ernst-Toller-Preis, Carl-Amery-Literaturpreis, Gwobr Gerty Spies am Lenyddiaeth, Gwobr Thomas-Mann, Gwobr Samuel-Bogumil-Linde, Croes Urdd Teilyngdod Gweriniaeth Ffederal yr Almaen, Kulturgroschen, Brüder-Grimm-Poetikprofessur, Gwobr-Heinrich-Böll, Gwobr Hoffmann von Fallersleben, Cevennes Award, Hildegard von Bingen Award, Gwobr Bruno-Kreisky, Gwobr Friedrich Hölderlin |
Gwefan | http://www.juli-zeh.de/ |
llofnod | |
Ei llyfr cyntaf oedd Adler und Engel ('Eryr ac Angylion') a gyfieithwyd i'r Saesneg gan Anglais Slenczka, ac a enillodd Wobr Llyfr yr Almaen yn 2002 am y nofel gyntaf orau. Teithiodd Juli Zeh drwy Bosnia-Herzegovina yn 2001, taith a ddaeth yn sail i'r llyfr Die Stille ist ein Geräusch ('Sŵn yw'r Distawrwydd'). Ymhlith ei llyfrau eraill mae Das Land der Menschen, Schilf, Alles auf dem Rasen, Kleines Konversationslexikon für Haushunde, Spieltrieb, 'Ein Hund läuft durch die Republik a Corpus Delicti.
Bu Zeh yn byw yn Leipzig ers 1995, ac ar hyn o bryd (2019) mae'n byw y tu allan i Berlin. Astudiodd Zeh y gyfraith yn Passau ac yn Leipzig, gan basio Zweites Juristisches Staatsexamen - sy'n gyfwerth â statws bargyfreithiwr yng Nghymru - yn 2003, ac mae ganddi ddoethuriaeth mewn cyfraith ryngwladol gan Brifysgol Saarbrücken. Mae ganddi hefyd radd o'r Deutsches Literaturinstitut Leipzig.
Fe'i ganed yn Bonn ar 30 Mehefin 1974.
Roedd yn gymarol wleidyddol ei natur, ac yn ystod ei hoes bu'n aelod o Blaid Sosialaidd a Democrataidd yr Almaen.
Bu'n aelod o Ganolfan PEN yr Almaen, Academi Celfyddydau Cain Bafaria am rai blynyddoedd.
Year | Cyfieithiad o'r teitl | Teitl gwreiddiol | ISBN | Nodiadau |
---|---|---|---|---|
2001 | Eryrod ac Angylion | Adler und Engel | 3-442-72926-2 | |
2002 | Sŵn yw'r Distawrwydd | Die Stille ist ein Geräusch | 978-3-89561-055-4 | |
2004 | greddf Gemau | Spieltrieb | 3-89561-056-9 | |
2007 | Mater Tywyll | Schilf | 3-89561-431-9 | Teitl yn yr UDA: In Free Fall |
2009 | Y Dull | Corpus Delicti | 978-3-89561-434-7 | |
2012 | Datgywasgiad | Nullzeit | 978-3-89561-436-1 | |
2013 | (not yet translated) | Treideln. Frankfurter Poetikvorlesungen | 978-3-89561-437-8 | |
2013 | Bore da, Fechgyn a Merched. Dramâu | Good Morning, Boys and Girls. Theaterstücke | 978-3-89561-438-5 | |
2014 | - | Nachts sind das Tiere. Essays | 978-3-89561-440-8 | |
2016 | ? | Ymysg Pobl. Roman | 978-3-630-874876 | |
2017 | ? | Calonnau Gwag. Roman | 978-3-630-87523-1 |
This article uses material from the Wikipedia Cymraeg article Juli Zeh, which is released under the Creative Commons Attribution-ShareAlike 3.0 license ("CC BY-SA 3.0"); additional terms may apply (view authors). Rhoddir testun y dudalen ar gael ar delerau'r drwydded CC BY-SA 4.0, heblaw ei fod wedi nodi'n wahanol. Images, videos and audio are available under their respective licenses.
®Wikipedia is a registered trademark of the Wiki Foundation, Inc. Wiki Cymraeg (DUHOCTRUNGQUOC.VN) is an independent company and has no affiliation with Wiki Foundation.