Cyfansoddwr o Wyddel oedd John Field (26 Gorffennaf 1782 - 23 Ionawr 1837), a aned yn Nulyn.
Daeth yn enwog fel un o'r prif gyfansoddwyr i'r piano yn ei ddydd a edmygid gan Haydn a Schumann.
John Field | |
---|---|
Ganwyd | 26 Gorffennaf 1782 Dulyn |
Bu farw | 23 Ionawr 1837 o niwmonia Moscfa |
Dinasyddiaeth | Gwyddel |
Galwedigaeth | pianydd, cyfansoddwr, athro, bardd |
Arddull | cerddoriaeth glasurol, Hwyrgan |
Plant | Leon Leonov |
Roedd ei daid yn organydd a phianydd yn Nulyn a'i dad yn fiolinydd mewn cerddorfa yn yr un ddinas. Rhoddodd ei berfformiad cyntaf yn wyth oed, wedi ei hyfforddi gan Giordani. Yn llanc 11 oed, aeth gyda'i dad i fyw yn Llundain. Cafodd ei hyfforddi ymhellach yno gan Clementi. Perfformiodd o flaen cynulleidfa a oedd yn cynnwys Haydn, a ganmolodd ei berfformiad a darogan dyfodol llewyrchus iddo.
Aeth i St Petersburg, Rwsia, gyda Clementi. Arhosodd yno a daeth yn ffefryn yng nghylchoedd aristocrataidd y ddinas. Ymhlith ei ddisgyblion achlysurol roedd y Glinka ifanc. Teithiodd Ewrop wedyn fel pianydd virtuoso. Bu farw yn St Petersburg.
Fel cyfansoddwr cerddoriaeth i'r piano, daeth yn adnabyddus ledled y cyfandir. Dyfeisiodd ac enwodd y Nocturne i'r piano; mae Chopin yn ddyledus iddo am y rhain. Cyhoeddodd Liszt argraffiad o nocturnes Field gyda rhagair canmoliaethus.
This article uses material from the Wikipedia Cymraeg article John Field, which is released under the Creative Commons Attribution-ShareAlike 3.0 license ("CC BY-SA 3.0"); additional terms may apply (view authors). Rhoddir testun y dudalen ar gael ar delerau'r drwydded CC BY-SA 4.0, heblaw ei fod wedi nodi'n wahanol. Images, videos and audio are available under their respective licenses.
®Wikipedia is a registered trademark of the Wiki Foundation, Inc. Wiki Cymraeg (DUHOCTRUNGQUOC.VN) is an independent company and has no affiliation with Wiki Foundation.