Pypedwr Americanaidd oedd James Maury Jim Henson (24 Medi, 1936 – 16 Mai, 1990) a greodd sioeau poblogaidd fel y Muppets, a pherfformiodd ar Sesame Street a The Muppet Show.
Mae'n bosibl taw Henson yw'r pypedwr mwyaf llwyddiannus erioed. Ceisiodd foderneiddio pypedwaith ag arbenigedd technegol i'w addasu i'r sgrîn, a defnyddio pypedau fel modd o adrodd straeon.
Jim Henson | |
---|---|
Ganwyd | James Maury Henson 24 Medi 1936 Greenville, Mississippi |
Bu farw | 16 Mai 1990 Manhattan |
Dinasyddiaeth | Unol Daleithiau America |
Alma mater | |
Galwedigaeth | cyfarwyddwr teledu, cyfarwyddwr ffilm, cynhyrchydd ffilm, actor llais, pypedwr, actor, sgriptiwr, animeiddiwr, cynhyrchydd teledu, cyfarwyddwr, cynhyrchydd |
Adnabyddus am | The Muppets, Labyrinth, The Dark Crystal, Fraggle Rock, Sesame Street, The Jim Henson Hour, Time Piece |
Taldra | 190 centimetr |
Priod | Jane Henson |
Plant | John Henson, Brian Henson, Lisa Henson, Heather Henson, Cheryl Henson |
Gwobr/au | Gwobrau Peabody, Gwobr Emmy 'Primetime', 'Disney Legends', Rhodfa Enwogion Hollywood, Primetime Emmy Award for Outstanding Directing for a Variety Series, seren ar Rodfa Enwogion Hollywood, Gwobr Inkpot |
Ganwyd Henson yn Greenville, Mississippi, ar 24 Medi 1936 a chafodd ei fagu yn Leland, Mississippi, gan deulu o Seientiaid Cristnogol. Agronomegwr oedd ei dad oedd yn gweithio i Adran Amaeth yr Unol Daleithiau. Symudodd y teulu i Maryland a phan oedd Jim ym Mhrifysgol Maryland cafodd ei hurio gan sianel deledu leol i gynhyrchu rhaglen fer o'r enw Sam and Friends. Cyd-weithiodd â Jane Nebel, myfyrwraig, a phriododd y ddau ym 1959. Cafodd y ddau, bump o blant cyn iddynt wahanu ym 1986, ond ni wnaethont ysgaru a pharhaodd y berthynas yn glos hyd at ei farwolaeth.
Creodd Jim byped o froga ym 1956 ac fe'i enwodd yn "Kermit the Frog" ar ôl ffrind o'i blentyndod. Creodd ragor o 'Muppets', sef cyfansoddair o marionette a puppet, o rwber a brethyn, ac oedd yn gallu dangos emosiwn yn well na phypedau pren a rhoes iddynt "fywyd a sensitifrwydd" ar gyfer y teledu. Yn y 1950au a'r 1960au ymddangosodd y Muppets mewn hysbysebion ac ar sioeau adloniant megis The Ed Sullivan Show a The Today Show.
Cyflogwyd Henson ym 1969 gan y Children's Television Workshop i berfformio'i bypedau ar y rhaglen blant Sesame Street. Cyflwynodd Henson y cymeriadau Bert ac Ernie, Big Bird, Grover ac eraill i'r sioe. Darlledwyd The Muppet Show o 1976 hyd 1981, a llwyddodd i ennill 235 miliwn o wylwyr ar draws y byd ar adegau. Cydweithiodd â'r pypedwr Frank Oz ar Sesame Street a The Muppet Show. Cynhyrchodd Henson The Muppet Movie (1979), a chyfarwyddodd The Great Muppet Caper (1981), ffilmiau oedd yn serennu'r Muppets. Yn y 1980au creodd y rhaglen blant Fraggle Rock a'r gyfres The Storyteller. Gweithiodd hefyd ar y ffilmiau ffantasi The Dark Crystal (1982) a Labyrinth (1986), ond nid oedd yn llwyddiannus yn y swyddfa docynnau.
Yn ystod ei yrfa, enillodd Henson 18 Gwobr Emmy, saith Gwobr Grammy, a phedair Gwobr Peabody. Roedd yn enwog am ei garedigrwydd, ei ostyngeiddrwydd a'i daldra o 6'3". Bu farw Henson ar 16 Mai 1990 o niwmonia. Ar y cychwyn ni ddymunodd Henson fynd i'r ysbyty gan nad oedd eisiau trafferthu eraill, ac yn ôl ei wraig Jane mae'n debyg i gredoau Seientiaeth Gristnogol ei deulu "effeithio ei feddwl", er nad oedd Henson yn Seientiad Cristnogol gweithredol ers 15 mlynedd. Cafwyd gwasanaeth coffa gyda 5000 o alarwyr yn Eglwys Gadeiriol Ioan Ddwyfol, Dinas Efrog Newydd.
This article uses material from the Wikipedia Cymraeg article Jim Henson, which is released under the Creative Commons Attribution-ShareAlike 3.0 license ("CC BY-SA 3.0"); additional terms may apply (view authors). Rhoddir testun y dudalen ar gael ar delerau'r drwydded CC BY-SA 4.0, heblaw ei fod wedi nodi'n wahanol. Images, videos and audio are available under their respective licenses.
®Wikipedia is a registered trademark of the Wiki Foundation, Inc. Wiki Cymraeg (DUHOCTRUNGQUOC.VN) is an independent company and has no affiliation with Wiki Foundation.