Mudiad neu safbwynt gwleidyddol yw iredentiaeth (o'r Eidaleg irredento, anatbrynedig neu heb ei adennill) sydd yn dadlau dros gyfeddiannu tiriogaethau a weinyddir gan wladwriaeth arall ar sail ethnigrwydd neu genedligrwydd cyffredin neu feddiant hanesyddol, mewn gwirionedd neu'n honedig.
Cysylltir yn aml ag holl-genedlaetholdeb a gwleidyddiaeth hunaniaeth. Gelwir y tir a hawlir yn irredenta neu'n dir colledig, o safbwynt yr iredentwyr.
Daw'r enw o'r mudiad Eidalaidd irredentismo a geisiodd gyfeddiannu rhanbarthau Eidaleg oddi ar y Swistir ac Ymerodraeth Awstria-Hwngari, ac ardaloedd yn Ffrainc megis Safwy, Nice a Chorsica, yn niwedd y 19g.
This article uses material from the Wikipedia Cymraeg article Iredentiaeth, which is released under the Creative Commons Attribution-ShareAlike 3.0 license ("CC BY-SA 3.0"); additional terms may apply (view authors). Rhoddir testun y dudalen ar gael ar delerau'r drwydded CC BY-SA 4.0, heblaw ei fod wedi nodi'n wahanol. Images, videos and audio are available under their respective licenses.
®Wikipedia is a registered trademark of the Wiki Foundation, Inc. Wiki Cymraeg (DUHOCTRUNGQUOC.VN) is an independent company and has no affiliation with Wiki Foundation.