Telynor Cymreig oedd Hugh Hughes (1830 - 24 Ionawr 1904).
Roedd yn frodor o Ynys Môn.
Hugh Hughes | |
---|---|
Ganwyd | 1830 Llandrygarn |
Bu farw | 24 Ionawr 1904 |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Galwedigaeth | telynor |
Ganwyd Hugh Hughes ym mhlwyf Llandrygarn yng ngogledd-orllewin Sir Fôn yn y flwyddyn 1830. Roedd yn fab i'r telynor John Hughes (1802-1889).
Ymhyfrydai yn ieuanc mewn cerddoriaeth a chyfansoddodd lawer o alawon a thonau a rhai anthemau hefyd. Roedd yn amlwg fel telynor llwyfan ac eisteddfod. Ei athro ar y delyn oedd T. D. Morris, Bangor. Fel ei dad, canai y delyn deir-res Gymreig.
Bu farw ar y 24ain o Ionawr, 1904, yn 73 oed; fe'i claddwyd ym mynwent Llandrygarn, fel ei dad o'i flaen.
This article uses material from the Wikipedia Cymraeg article Hugh Hughes (telynor), which is released under the Creative Commons Attribution-ShareAlike 3.0 license ("CC BY-SA 3.0"); additional terms may apply (view authors). Rhoddir testun y dudalen ar gael ar delerau'r drwydded CC BY-SA 4.0, heblaw ei fod wedi nodi'n wahanol. Images, videos and audio are available under their respective licenses.
®Wikipedia is a registered trademark of the Wiki Foundation, Inc. Wiki Cymraeg (DUHOCTRUNGQUOC.VN) is an independent company and has no affiliation with Wiki Foundation.