Roedd Howard Robard Hughes, Jr.
Daeth i amlygrwydd bydeang yn y 1920au yn y 1920au drwy greu ffilmiau yn Hollywood - rhai drudfawr ac yn aml - dadleuol ee The Racket (1928), Hell's Angels (1930), Scarface (1932), a The Outlaw (1943). Yn ystod ei oes, roedd yn un o bobl gyfoethoca'r byd, gan wneud ei arian ei hun yn hytrach na thrwy etieddu arian.
Howard Hughes | |
---|---|
Ganwyd | Howard Robard Hughes Jr. 24 Rhagfyr 1905 Houston |
Bu farw | 5 Ebrill 1976 Houston |
Dinasyddiaeth | Unol Daleithiau America |
Alma mater | |
Galwedigaeth | cynhyrchydd ffilm, cyfarwyddwr ffilm, hedfanwr, Q10497074, entrepreneur, dyfeisiwr, cynhyrchydd |
Tad | Howard R. Hughes, Sr. |
Mam | Allene Stone Gano |
Priod | Ella Botts Rice, Jean Peters |
Partner | Terry Moore, Katharine Hepburn, Faith Domergue, Ava Gardner, Gloria Vanderbilt, Ginger Rogers, Rita Hayworth, Jean Harlow |
Gwobr/au | Medal Aur y Gyngres, Gwobr 'Hall of Fame' am Hedfan |
Gwefan | http://www.hhmi.org/ |
llofnod | |
Ymhlith ei gariadon roedd: Billie Dove, Bette Davis, Ava Gardner, Olivia de Havilland, Katharine Hepburn, Ginger Rogers a Gene Tierney; gofynnodd i Joan Fontaine ei briodi sawl tro, heb fawr o lwc.
Yn dilyn hyn, ffurfiodd The Hughes Aircraft Company a huriodd lawer o beiriannwyr a chynllunwyr. Treuliodd weddill y 1930au yn sefydlu sawl record hedfan, cynhyrchodd yr Hughes H-1 Racer a'r H-4 "Hercules" (a adnabyddir ar lafar fel y "Spruce Goose") a phrynodd ac ehangodd y Trans World Airlines (TWA), a werthwyd yn ddiweddarach i gwmni American Airlines. Prynodd hefyd Air West a'i ailenwi'n Hughes Airwest; gwerthodd y cwmni hwn yn ei dro i Republic Airlines (1979–1986).
Rhestrwyd Hughes yn rhestr y Flying Magazine o 50 'Arwr y Byd Hedfan', gan ddod yn 25fed. Fe'i cofir yn benaf am ei arian anhygoel, ei ymddygiad ecsentrig, gwahanol ac am dreulio'i flynyddoedd olaf fel meudwy. Etifeddwyd ei waddol ariannol gan elusen a sefydlodd i ymchwilio i ddatblygiadau meddygol: Howard Hughes Medical Institute.
Roedd ei dad, Howard Robard Hughes, yr Hynaf (9 Medi 1869 – 14 Ionawr 1924), hefyd yn ŵr busnes a ffurfiodd Hughes Tool Company, a'i daid Felix Turner Hughes (10 Tachwedd 1837, Millstadt, Illinois – 19 Hydref 1926, Los Angeles, California), yn farnwr. Cyn hynny bu Felix yn filwr ym Myddin yr Undeb yn ystod Rhyfel Cartref America, ac roedd yn fab i Joshua Waters Hughes (g. 15 Hydref 1808) a Martha Askins; roedd yn ofaint. Ganwyd ei dad William Hughes tua 1780, priododd tua 1807, Judith Hughes, (g. 1790), merch Josiah Hughes).
This article uses material from the Wikipedia Cymraeg article Howard Hughes, which is released under the Creative Commons Attribution-ShareAlike 3.0 license ("CC BY-SA 3.0"); additional terms may apply (view authors). Rhoddir testun y dudalen ar gael ar delerau'r drwydded CC BY-SA 4.0, heblaw ei fod wedi nodi'n wahanol. Images, videos and audio are available under their respective licenses.
®Wikipedia is a registered trademark of the Wiki Foundation, Inc. Wiki Cymraeg (DUHOCTRUNGQUOC.VN) is an independent company and has no affiliation with Wiki Foundation.