Roedd Gwaith Dur Bethlehem yn waith mawr ym Methlehem, Pennsylvania, yn cynnwys 120 erw.
Caewyd y gwaith ar 18 Tachwedd 1995, ar ôl 140 mlynedd o gynhyrchu dur.
Math | steel mill |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Sir | Bethlehem, Pennsylvania |
Gwlad | UDA |
Agorwyd y gwaith ym 1863 gan Gwmni Haearn Saucona, yn creu cledrau haearn ar gyfer y rheilffordd leol. Creuwyd cledrau dur o 1873 ymlaen. Crewyd Cwmni Dur Bethlehem ym 1899, a daeth yn gorfforiaeth ym 1904.
Mae gan y safle 5 ffwrn, hyd at 230 troedfedd o uchder. Roedd 7 ar un adeg. Adeiladwyd yr un cyntaf ym 1915. Cynhyrchwyd rhwng 2,600 a 3,000 o dunnelli o haearn yn ddyddiol, y mwyafrif i greu dur.
Ar ôl cau’r gwaith, penderfynodd Cwmni Dur Bethlehem cyfrannu at greu ardal diwyllianol yn i hwyluso’r celf, cerddoriaeth, chwaraeon, ymchwil, siopa a’r bywyd diwylliannol y dref yn gyffredinol.Agorwyd canolfan Steelstacks yn 2011 ac wedyn Phafiliwn Levitt a chanolfan darlledu PBS yn ystod yr un flwyddyn. Agorwyd canolfan ymwelwyr yn 2012. Erbyn hyn (2017), cynhelir dros 1000 cyngerdd ac 8 gŵyl yn flynyddol., gan gynnwys Musikfest, yr ŵyl rydd mwyaf yn y wlad.
This article uses material from the Wikipedia Cymraeg article Gwaith dur Bethlehem, which is released under the Creative Commons Attribution-ShareAlike 3.0 license ("CC BY-SA 3.0"); additional terms may apply (view authors). Rhoddir testun y dudalen ar gael ar delerau'r drwydded CC BY-SA 4.0, heblaw ei fod wedi nodi'n wahanol. Images, videos and audio are available under their respective licenses.
®Wikipedia is a registered trademark of the Wiki Foundation, Inc. Wiki Cymraeg (DUHOCTRUNGQUOC.VN) is an independent company and has no affiliation with Wiki Foundation.