Cyflwynydd teledu ac actor o Sais oedd Geoffrey Hayes (13 Mawrth 1942 – 30 Medi 2018) Ei rôl mwyaf enwog oedd fel cyflwynydd y rhaglen deledu i blant Rainbow rhwng 1973 a 1992, yn dilyn y cyflwynydd gwreiddiol David Cook.
Cyn hynny, bu'n gweithio fel actor, gan gynnwys rôl ar ddrama heddlu Z-Cars (BBC1). Roedd gan Hayes gredydau ysgrifennu ar gyfer Rainbow a The Great Pony Raid yn 1967.
Geoffrey Hayes | |
---|---|
Ganwyd | 13 Mawrth 1942 Stockport |
Bu farw | 30 Medi 2018 o niwmonia |
Dinasyddiaeth | y Deyrnas Unedig |
Galwedigaeth | cyflwynydd teledu, actor, actor teledu |
Adnabyddus am | Rainbow |
Wedi i Rainbow ddod i ben yn y 1990au roedd Hayes yn ei chael yn anodd i ddod o hyd i waith. Cymerodd swydd stacio silffoedd yn ei siop Sainsbury's lleol am bedwar mis gan nad oedd wedi dod o hyd i swydd actio a roedd ei wraig eisiau iddo ennill incwm. Treuliodd rhywfaint o amser fel gyrrwr tacsi ac ymddeolodd beth amser yn ddiweddarach. Nododd y byddai wedi hoffi gwneud gwaith actio difrifol ar ôl Rainbow, ond roedd cyfarwyddwyr yn ei weld fel Geoffrey o Rainbow yn unig. Serennodd mewn hysbyseb teledu doniol am fuddsoddi arian, yn gwneud hwyl am ei gwymp o'r brig.
Yn 1996, ymddangosodd Hayes yn fideo'r gân "I'd Like To Teach the World to Sing" gan y band teyrnged Oasis, No Way Sis. Roedd yn chwarae gyrrwr tacsi, yn union fel y gwnaeth Patrick Macnee yn fideo Oasis ar gyfer "Don't Look Back in Anger". Ymddangosodd hefyd yn y fideo llawn enwogion ar gyfer y sengl elusennol "Is This the Way to Amarillo" gyda Tony Christie a Peter Kay.
Yn 2002, roedd yn banelydd gwadd ar bennod o Never Mind the Buzzcocks.
Yn 2008, roedd Hayes yn rhan o ymgyrch Walkers Crisips ar gyfer Monster Munch. Amcan datganedig yr ymgyrch oedd dod o hyd i'r pypedau anghenfil coll o'r hysbysebion teledu gwreiddiol o'r 1980au ar gyfer y byrbryd poblogaidd. Yn y clip ffilm, mae'n sôn ei fod wedi clywed gan Bungle yn ddiweddar.
Ar 12 Medi 2015, roedd yn gystadleuydd gwadd ar gwis Pointless Celebrities (BBC1) . Aeth i'r rownd derfynol ond ni chafodd ateb 'dibwynt'.
Roedd Hayes yn gefnogwr o'r tîm pêl-droed Albanaidd Dundee Unedig, wedi byw yn y ddinas yn y 1960au. Dywedodd Hayes ei fod wedi gofyn i gynhyrchwyr Rainbow i wneud pyped Zipp yn lliw tanjerîn, i gyd-fynd â lliwiau Dundee United yn hytrach na lliw glas eu gelynion lleol Dundee.
Bu farw Hayes o niwmonia ar 30 Medi 2018, yn 76 oed, gan adael ei wraig Sarah a mab Tom.
This article uses material from the Wikipedia Cymraeg article Geoffrey Hayes, which is released under the Creative Commons Attribution-ShareAlike 3.0 license ("CC BY-SA 3.0"); additional terms may apply (view authors). Rhoddir testun y dudalen ar gael ar delerau'r drwydded CC BY-SA 4.0, heblaw ei fod wedi nodi'n wahanol. Images, videos and audio are available under their respective licenses.
®Wikipedia is a registered trademark of the Wiki Foundation, Inc. Wiki Cymraeg (DUHOCTRUNGQUOC.VN) is an independent company and has no affiliation with Wiki Foundation.