Cerbyd ar log sydd ar gael i gludo teithwyr, yn unigolyn neu grwp bychan, yw tacsi.
Yn wahanol i ffurfiau eraill o gludiant cyhoeddus, dydi tacsi ddim yn gyfyngedig i un llwybr a gall y teithiwr ofyn i'r gyrrwr stopio unrhyw le.
Gyda sefydlu Cynulliad Cenedlaethol Cymru mae deddfu trwyddedu tacis (ond nid ei weithredu, sydd yn nwylo'r awdurdodau lleol) yn fater datganoliedig, fel y mae yn yr Alban a Gogledd Iwerddon hefyd.
Mae mathau eraill o dacsis yn cynnwys y cab mini, limousine a tacsis rhannu (mewn rhai gwledydd, yn enwedig yn y Trydydd Byd) sy'n rhedeg ar lwybrau penodedig, e.e. rhwng trefi.
This article uses material from the Wikipedia Cymraeg article Tacsi, which is released under the Creative Commons Attribution-ShareAlike 3.0 license ("CC BY-SA 3.0"); additional terms may apply (view authors). Rhoddir testun y dudalen ar gael ar delerau'r drwydded CC BY-SA 4.0, heblaw ei fod wedi nodi'n wahanol. Images, videos and audio are available under their respective licenses.
®Wikipedia is a registered trademark of the Wiki Foundation, Inc. Wiki Cymraeg (DUHOCTRUNGQUOC.VN) is an independent company and has no affiliation with Wiki Foundation.