Gŵyl Gristnogol sy'n cael ei dathlu i anrhydeddu yr holl saint, hysbys ac anhysbys, yw Gŵyl (yr) Hollsaint (neu Gŵyl (yr) Holl Saint). Mewn Cristnogaeth Orllewinol, mae'n cael ei ddathlu ar Dachwedd 1 gan yr Eglwys Gatholig, y Cymuned Anglicanaidd, yr Eglwys Fethodistaidd, yr Eglwys Lutheraidd, yr Eglwys Ddiwygiedig, ac eglwysi Protestannaidd eraill.
Mae'r Eglwys Uniongred Ddwyreiniol ac Eglwysi Catholig y Dwyrain a'r Eglwysi Lutheraidd Bysantaidd yn ei ddathlu ar y Sul cyntaf ar ôl y Pentecost. Mae Eglwysi'r Tri Cyngor Caldea ac eglwysi Catholig Dwyreinol yn dathlu Gŵyl (yr) Hollsaint ar y dydd Gwener cyntaf ar ôl Pasg.
Mae dathlu Gŵyl (yr) Hollsaint yn tarddu o'r gred bod cyswllt grymus rhwng y rhai sydd yn y nefoedd (yr "Eglwys Fuddugoliaethus") a'r byw (yr "Eglwys Filwriaethus"). Yn ôl diwinyddiaeth Gatholig, mae'r diwrnod yn coffau pob un sydd wedi cael y Weledigaeth Wynfydedig yn y Nefoedd. Yn ôl diwinyddiaeth Fethodistaidd, mae Gŵyl (yr) Hollsaint yn achlysur i roi diolch i Dduw am fywydau a marwolaethau ei saint, yr enwog a'r anhysbys. Felly, mae unigolion trwy'r Eglwys Gyffredinol yn cael eu hanrhydeddu, yn cynnwys yr Apostol Paul, Awstin o Hippo a John Wesley, yn ogystal ag unigolion sydd wedi arwain at ffydd yr unigolyn yn Iesu, fel mam-gu neu gyfaill, er enghraifft.
Yn Ynysoedd Prydain, mae'n hysbys bod eglwysi yn dathlu Gŵyl (yr) Hollsaint ar 1 Tachwedd ar ddechrau'r 8g i gyd-fynd neu gymryd lle yr ŵyl Geltaidd Samhain. Mae James Frazer yn awgrymu bod 1 Tachwedd wedi'i ddewis am mai hwnnw oedd dyddiad gŵyl Geltaidd y meirw (Samhain). Mae Ronald Hutton, fodd bynnag, yn nodi bod yr eglwys yn Iwerddon yn y 7g a'r 8g, yn ôl Óengus o Tallaght (bu farw tua 824), yn dathlu Gŵyl (yr) Hollsaint ar 20 Ebrill. Mae'n awgrymu mai syniad Germanig yn hytrach na Cheltaidd oedd y dyddiad.
This article uses material from the Wikipedia Cymraeg article Gŵyl (yr) Hollsaint, which is released under the Creative Commons Attribution-ShareAlike 3.0 license ("CC BY-SA 3.0"); additional terms may apply (view authors). Rhoddir testun y dudalen ar gael ar delerau'r drwydded CC BY-SA 4.0, heblaw ei fod wedi nodi'n wahanol. Images, videos and audio are available under their respective licenses.
®Wikipedia is a registered trademark of the Wiki Foundation, Inc. Wiki Cymraeg (DUHOCTRUNGQUOC.VN) is an independent company and has no affiliation with Wiki Foundation.