Mae Foras na Gaeilge (Sefydliad y Wyddeleg) yn gorff statudol sy'n gofalu am yr iaith Wyddeleg ac yn ei hyrwyddo yn y ddwy uned wleidyddol yn Iwerddon, sef 26 sir Gweriniaeth Iwerddon a chwe sir Gogledd Iwerddon.
Mae'n un o'r cyrff traws-ffiniol a sefydlwyd yn sgîl Cytundeb Gwener y Groglith. Fe'i sefydlwyd ar yr 2il o Ragfyr 1999, ac yn y 26 sir fe gymerodd drosodd swyddogaeth y cyrff Bord na Gaeilge, An Gúm, ac An Coiste Téarmaíochta, oedd yn gyrff statudol yn y Weriniaeth.
Enghraifft o'r canlynol | asiantaeth lywodraethol, rheoleiddiwr iaith |
---|---|
Dechrau/Sefydlu | 2 Rhagfyr 1999 |
Pencadlys | Dulyn, Belffast |
Enw brodorol | Foras na Gaeilge |
Gwladwriaeth | Gweriniaeth Iwerddon, Gogledd Iwerddon |
Gwefan | http://www.gaeilge.ie |
Sefydlir sawl Áras na Gaeilge ("Llety/Adeilad y Wyddeleg") gan Foras na Gaeilge fel canolfan ar gyfer gweithgarwch dros yr iaith ar draws tiriogaeth Iwerddon. Yn y Áras na Gaeilge yn Nulyn lleolir gorsaf radio gymunedol Wyddeleg ar gyfer y ddinas, sef, Raidió na Life.
This article uses material from the Wikipedia Cymraeg article Foras na Gaeilge, which is released under the Creative Commons Attribution-ShareAlike 3.0 license ("CC BY-SA 3.0"); additional terms may apply (view authors). Rhoddir testun y dudalen ar gael ar delerau'r drwydded CC BY-SA 4.0, heblaw ei fod wedi nodi'n wahanol. Images, videos and audio are available under their respective licenses.
®Wikipedia is a registered trademark of the Wiki Foundation, Inc. Wiki Cymraeg (DUHOCTRUNGQUOC.VN) is an independent company and has no affiliation with Wiki Foundation.