Roedd María Eva Duarte de Perón neu Evita Perón (7 Mai 1919 – 26 Gorffennaf 1952), ganed María Eva Duarte, yn actores a gwleidydd poblogaidd, a aned yn Los Toldos, Buenos Aires.
Ail wraig yr Arlywydd Juan Domingo Perón (1895–1974) ydoedd a bu'n Foneddiges Gyntaf yr Ariannin o 1946 tan ei marwolaeth ym 1952. Yn aml cyfeirir ati fel Eva Perón, neu'r term Sbaeneg o annwylder Evita, sy'n golygu "Eva Fach".
Eva Perón | |
---|---|
Ganwyd | María Eva Duarte 7 Mai 1919 Junín |
Bu farw | 26 Gorffennaf 1952 o canser serfigol Buenos Aires |
Dinasyddiaeth | yr Ariannin |
Galwedigaeth | gwleidydd, actor llwyfan, actor ffilm, undebwr llafur, ymgyrchydd dros hawliau merched, ymgyrchydd dros bleidlais i ferched |
Swydd | Prif Foneddiges yr Ariannin, llywydd corfforaeth, Arweinydd Ysbrydol Cenedl yr Ariannin |
Plaid Wleidyddol | Plaid Merched Peron |
Mudiad | hawliau menywod |
Priod | Juan Perón |
Gwobr/au | Uwch-Groes Urdd Isabel la Católica, Uwch Groes Urdd y Condor o'r Andes, Urdd Cenedlaethol er Anrhydedd, Urdd Umayyad, Uwch Groes Urdd Cenedlaethol er Anrhydedd a Haeddiant, Urdd Boyacá, Gorchymyn Cyffredinol San Martin, Urdd Isabel la Católica, National Order of Honour and Merit, Order of the Condor of the Andes, Gorchymyn Teilyngdod Cenedlaethol, Urdd Croes y De, Urdd Llew'r Iseldiroedd, Urdd Eryr Mecsico, Order of Merit of Duarte, Sanchez and Mella, Urdd yr Haul, Urdd Oranje-Nassau |
llofnod | |
Plentyn llwyn a pherth ydoedd a anwyd yng nghefn gwlad yr Ariannin ym 1919. Ym 1934, pan oedd yn 15 mlwydd oed, aeth i'r brifddinas, Buenos Aires lle dilynodd yrfa fel actores ym myd y llwyfan, radio a ffilm.
Cyfarfu Eva y Cadfridog Juan Perón ar 22 Ionawr, 1944, mewn noson elusennol yn Stadiwm Park Luna ym Buenos Aires, er mwyn codi arian i'r rhai a ddioddefodd yn Naeargryn San Juan. Priododd y ddau y flwyddyn ganlynol. Ym 1946, etholwyd Juan Perón yn Arlywydd yr Ariannin. Dros y chwe mlynedd ganlynol, daeth Eva Perón yn ffigur dylanwadol o fewn yr undebau llafur o blaid Peron, gan siarad ar ran hawliau'r gweithwyr. Rheolodd y Gweinidogaethau Gwaith ac Iechyd a sefydlodd Sefydliad Eva Perón er mwyn hyrwyddo lles cymdeithasol yn y wlad. Cefnogai Evita ddiwygiadau poblogaidd o blaid y werin. Oherwydd hynny a'i gwaith elusennol cawsai ei haddoli gan y tlodion yn ystod ei hoes fer. Gweithiai'n galed o blaid rhoi'r hawl i bleidleisio i ferched. Hyhi hefyd a sefydlodd y Blaid Benywaidd Peronaidd.
Ym 1951, derbyniodd Eva Perón yr enwebiad Peronaidd i fod yn Is-Arlywydd yr Ariannin. Yn ei hymgais, cafodd gefnogaeth o sylfeini gwleidyddol Peronaidd a dosbarth gweithiol, incwm isel yr Ariannin a gyfeiriwyd atynt fel descamisados neu'r "rhai heb grysau". Fodd bynnag, golygodd gwrthwynebiad gan elite y wlad a'r lluoedd arfog, ynghyd â'i hiechyd bregus ei bod wedi tynnu ei henw'n ôl. Ym 1952, ychydig cyn ei marwolaeth i gancr yn 33 mlwydd oed, rhoddwyd y teitl swyddogol o "Arweinydd Ysbrydol y Genedl" iddi gan y Gynghrair Archentaidd.
Ysgrifennodd Andrew Lloyd-Webber a Tim Rice y sioe gerdd enwog Evita amdani yn 1978. Elaine Paige a chwaraeodd ran Evita. Yn y ffilm o'r un enw Madonna a chwaraeodd ran Evita.
This article uses material from the Wikipedia Cymraeg article Eva Perón, which is released under the Creative Commons Attribution-ShareAlike 3.0 license ("CC BY-SA 3.0"); additional terms may apply (view authors). Rhoddir testun y dudalen ar gael ar delerau'r drwydded CC BY-SA 4.0, heblaw ei fod wedi nodi'n wahanol. Images, videos and audio are available under their respective licenses.
®Wikipedia is a registered trademark of the Wiki Foundation, Inc. Wiki Cymraeg (DUHOCTRUNGQUOC.VN) is an independent company and has no affiliation with Wiki Foundation.