Y Dansk Sprognævn ydyw'r corff swyddogol sydd yn rheoli yr iaith Ddaneg fel rhan o'r Weinyddiaeth Ddiwylliant Ddanaidd, ac mae wedi ei leoli ym Mhrifysgol Copenhagen.
Sefydlwyd y corff yn 1955. Mae gan y corff dair prif amcan:
Mae aelodau y pwyllgor gweithiol yn dilyn y cyfryngau, yn darllen llyfrau ac yn cofnodi defnydd o eiriau newydd. Mae geiriau newydd sydd wedi ymddangos digon aml mewn print ac ar lafar yn cael eu hystyried yn ddigion nodedig i gael eu hychwanegu i'r Retskrivningsordbogen, llyfr y mae hi yn ofynol trwy gyfraith i bob ysgol a sefydliad lywodraethol ei ddilyn. Mae'r pwyllgor yn derbyn tua 14,000 o ymholiadau y flwyddyn ynglân ag iaith Ddaneg, eu hanner gan gwmnïau preifat ond hefyd gan ddinasyddion cyffredin.
Mae'r Dansk Sprognævn yn cydweithio yn ddyddiol gyda byrddau iaith cyfwerth y Gwledydd Llychlyn eraill, Cynghorau Iaith Norwy a Sweden, i sicrhau nad yw'r Ieithoedd Llychlyn Cyfandirol, sydd fwy neu lai yn gyd ddealladwy, yn ymwahanu fwy na sydd angen.
This article uses material from the Wikipedia Cymraeg article Dansk Sprognævn, which is released under the Creative Commons Attribution-ShareAlike 3.0 license ("CC BY-SA 3.0"); additional terms may apply (view authors). Rhoddir testun y dudalen ar gael ar delerau'r drwydded CC BY-SA 4.0, heblaw ei fod wedi nodi'n wahanol. Images, videos and audio are available under their respective licenses.
®Wikipedia is a registered trademark of the Wiki Foundation, Inc. Wiki Cymraeg (DUHOCTRUNGQUOC.VN) is an independent company and has no affiliation with Wiki Foundation.