Cangen o'r ieithoedd Germanaidd, rhan o'r teulu o ieithoedd Indo-Ewropeaidd yw'r ieithoedd Germanaidd gogleddol.
Mae'r gangen yn cynnwys ieithoedd Llychlyn: Daneg, Ffaröeg, Islandeg, Norwyeg a Swedeg. Maen nhw i gyd yn tarddu'n hanesyddol oddi wrth Hen Norseg. Fe'u siaredir yn frodorol dros gwledydd y Llychlyn, Denmarc, Gwlad yr Iâ, Norwy a Sweden a hefyd gan leiafrif yn y Ffindir.
Yn draddodiadol, fe ddosberthir yr ieithoedd Germanaidd gogleddol yn ddau grŵp: y grŵp gorllewinol, yn cynnwys Islandeg, Ffaröeg a Norwyeg, a'r grŵp dwyreiniol, Daneg a Swedeg. Mae'r dosbarthad hwnnw yn adlewyrchu ffactorau hanesyddol, gan fod yr Islandeg a'r Ffaröeg wedi datblygu allan o dafodieithoedd Hen Norseg a siaradwyd yn Norwy. Heddiw tueddir hefyd i ddefnyddio dosbarthiad yn Scandinafeg Ynysig (Islandeg a Ffaröeg) a Scandinafeg Gyfandirol (Daneg, Swedeg a Norwyeg). Mae'r ail ddosbarthiad yn rhoi blaenoriaeth i ffactorau synchronig, yn enwedig, debygrwydd yr ieithoedd heddiw, gan gynnwys gradd cyd-ddealtwriaeth rhyngddynt.
Mae'r gwahaniaethau ieithyddol rhwng yr ieithoedd Scandinafaidd Cyfandirol heddiw yn fychan. Mae'r rhesymau dros eu rhannu nhw'n dair iaith heddiw yn bennaf yn wleidyddol, cymdeithasol a diwylliannol, yn hytrach nag yn ieithyddol. Mae gradd uchel ar gyd-ddealltwriaeth rhyngddynt, yn enwedig rhwng Bokmål Norwyeg a Daneg.
This article uses material from the Wikipedia Cymraeg article Ieithoedd Germanaidd Gogleddol, which is released under the Creative Commons Attribution-ShareAlike 3.0 license ("CC BY-SA 3.0"); additional terms may apply (view authors). Rhoddir testun y dudalen ar gael ar delerau'r drwydded CC BY-SA 4.0, heblaw ei fod wedi nodi'n wahanol. Images, videos and audio are available under their respective licenses.
®Wikipedia is a registered trademark of the Wiki Foundation, Inc. Wiki Cymraeg (DUHOCTRUNGQUOC.VN) is an independent company and has no affiliation with Wiki Foundation.