Sefydlwyd Cyngor Llyfrau Cymru yn 1961 fel y Cyngor Llyfrau Cymraeg.
Erbyn heddiw noddir hi gan Lywodraeth Cymru. Amcanion y Cyngor yw i hybu diddordeb mewn llyfrau Cymraeg a llyfrau Saesneg o ddiddordeb i Gymru, hybu'r diwydiant cyhoeddi, cynorthwyo a chefnogi awduron drwy gynnig amryw o wasanaethau a dosbarthu grantiau. Maent yn darparu gwasanaethau golygu a dylunio i gyhoeddwyr, darparu grantiau i awduron yn ogystal â grantiau cyhoeddwyr er mwyn hybu cyhoeddi llyfrau, gwasanaethau i lyfrgelloedd a chyfanwerthu llyfrau a deunydd perthnasol.
Enghraifft o'r canlynol | sefydliad |
---|---|
Dechrau/Sefydlu | 1961 |
Pencadlys | Cymru |
Gwladwriaeth | y Deyrnas Unedig |
Gwefan | http://www.wbc.org.uk, http://www.cllc.org.uk |
Mae pencadlys Cyngor Llyfrau Cymru yng Nghastell Brychan, Aberystwyth ac erbyn hyn, canolfan dosbarthu yn Mharc Busnes Glanyrafon ar gyrion y dref. Mae gan y ganolfan, drosiant o £5.5 miliwn y flwyddyn (net) ac mae 49 o aelodau staff parhaol yn gweithio rhwng y ddau safle.
Mae'r Cyngor hefyd yn gweithio ar y cyd gyda nifer o gyrff a chwmniau eraill megis yr Academi Gymreig, Urdd Gobaith Cymru ac S4C. Mae'nt yn ymwneud â trefnu a hysbysebu gwobrau Llyfr y Flwyddyn, Bardd Plant Cymru a Gwobrau'r Diwydiant Cyhoeddi.
Cyhoeddir nifer o daflenni a chatalogau llyfrau yn flynyddol ar gyfer plant ysgol, a chatalogau ffuglen ac yn y blaen, ar gyfer oedolion. Rhai o'r hen gyhoeddiadau oedd Sbondonics a Sbri-di-ri, a ddaeth i ben yn 2009.
Anfonodd y Cyngor dros 1000 o lyfrau Cymraeg i Batagonia yn 2005, gwerth bron i £7,000 er mwyn helpu pobl yno i ddysgu'r Gymraeg.
Dyma restr o gyfarwyddwyr neu brif weithredwyr y Cyngor ers y cychwyn, gyda'r dyddiad wnaethont gychwyn ei swydd.
This article uses material from the Wikipedia Cymraeg article Cyngor Llyfrau Cymru, which is released under the Creative Commons Attribution-ShareAlike 3.0 license ("CC BY-SA 3.0"); additional terms may apply (view authors). Rhoddir testun y dudalen ar gael ar delerau'r drwydded CC BY-SA 4.0, heblaw ei fod wedi nodi'n wahanol. Images, videos and audio are available under their respective licenses.
®Wikipedia is a registered trademark of the Wiki Foundation, Inc. Wiki Cymraeg (DUHOCTRUNGQUOC.VN) is an independent company and has no affiliation with Wiki Foundation.