Ar 11 Medi 1973 cafodd Salvador Allende, Arlywydd Tsile, ei ddymchwel mewn coup d'état a drefnwyd gan luoedd milwrol Tsile gyda chefnogaeth yr Unol Daleithiau.
Sefydlwyd jwnta filwrol dan y Cadfridog Augusto Pinochet gan ddod â llywodraeth yr Unidad Popular, a etholwyd yn ddemocrataidd, i ben.
Enghraifft o'r canlynol | coup d'état |
---|---|
Dyddiad | 11 Medi 1973 |
Rhan o | history of Chile |
Lleoliad | Tsile |
Gwladwriaeth | Tsile |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Roedd llywodraeth yr Unol Daleithiau yn ystyried y posiblrwydd y byddai Allende yn ennill etholiad 1970 yn drychineb am ei bod yn awyddus i amddiffyn buddianau economaidd a strategol yr Unol Daleithiau ac atal ymlediad comiwnyddiaeth a sosialaeth yn America Ladin. Cyfnod y Rhyfel Oer oedd hyn. Ym Medi 1970, dywedodd yr Arlywydd Nixon wrth y CIA nad oedd llywodraeth gan Allende yn dderbyniol ac awdurdododd $10,000,000 (swm eithaf sylweddol yn 1970) i atal Allende rag ennill grym neu i'w ddymchwel pe bai'n llwyddo i ddod yn arlywydd. Galwyd cynlluniau'r CIA i atal Allende yn "Trac I" a "Trac II"; roedd Trac I yn ceisio atal Allende trwy "ddichell seneddol", tra bod Trac II yn fod i berswadio swyddogion clo ym myddin Tsile i weithredu coup pe bai Allende yn ennill.
Ar ôl etholiad 1970, ceisiodd cynnlun Trac I annog yr arlywydd ar fin gorffen ei dymor, Eduardo Frei Montalva, i berswadio ei blaid, y (PDC) i bleidleisio dros Alessandri yn y Gyngres. Byddai Alessandri wedyn yn ymddeol ar unwaith a galw am etholiad newydd. Buasai Eduardo Frei yn rhydd i sefyll eto wedyn yn ôl cyfansoddiad Tsile, gyda siawns da efallai i guro Allende. Ond dewisodd Siambr Dirpwryon Tsile Allende yn Arlywydd, ar yr amod ei fod yn parchu'r Cyfansoddiad.
Yn ôl rhai sylwebyddion a haneswyr, ni fu rhaid gweithredu Trac II, am fod lluoedd arfog Tsile eisoes yn symud i'r cyfeiriad yna. Mae eraill yn dadlau fod y CIA wedi chwarae rhan flaenllaw yng nghynllwyn Pinochet ac eraill, neu o leiaf wedi ei hybu'n sylweddol.
Mae'r Unol Daleithiau wedi cydnabod chwarae rhan yng nglweidyddiaeth Tsile cyn y coup, ond mae ei rhan yn y coup ei hun yn ddadleuol. Rhybuddwyd y CIA gan eu cysylltiadau yn Tsile ddeuddydd o flaen llaw, ond y llinell swyddogol yw na chwareodd y CIA ran uniongyrchol ynddo.
Rhoddwyd cymorth ariannol gan lywodraeth UDA i gefnogi streic gyrwyr lorïau preifat, a ychwanegodd i'r anhrefn economaidd cyn y coup,
Ar ôl i Pinochet gipio grym, dywedodd Henry Kissinger wrth yr Arlywydd Richard Nixon "na wnaeth yr Unol Daleithiau hyn," ond "mi ddaru ni helpu." (gan gyfeirio at y coup ei hun). Yn ychwanegol, mae dogfennau a ryddhawyd dan lywodraeth Bill Clinton yn dangos bod llywodraeth UDA a'r CIA wedi ceisio cael gwared o Allende yn 1970 cyn iddo ennill grym ("Prosiect FUBELT"). Erys nifer o ddogfennau perthnasol heb eu cyhoeddi.
This article uses material from the Wikipedia Cymraeg article Coup d'état Tsile (1973), which is released under the Creative Commons Attribution-ShareAlike 3.0 license ("CC BY-SA 3.0"); additional terms may apply (view authors). Rhoddir testun y dudalen ar gael ar delerau'r drwydded CC BY-SA 4.0, heblaw ei fod wedi nodi'n wahanol. Images, videos and audio are available under their respective licenses.
®Wikipedia is a registered trademark of the Wiki Foundation, Inc. Wiki Cymraeg (DUHOCTRUNGQUOC.VN) is an independent company and has no affiliation with Wiki Foundation.