Clarence Nash

Actor llais Americanaidd oedd Clarence Charles Ducky Nash (7 Rhagfyr 1904 – 20 Chwefror 1985).

Roedd yn fwyaf adnabyddus am leisio cymeriad cartŵn Cwmni Disney Donald Duck. Bu'n lleisio Donald Duck am dros 50 mlynedd. Bu hefyd yn lleisio cariad Donald Daisy Duck, a neiaint Donald Huey, Dewey a Louie.

Clarence Nash
Clarence Nash
Ganwyd7 Rhagfyr 1904 Edit this on Wikidata
Watonga, Oklahoma‎ Edit this on Wikidata
Bu farw20 Chwefror 1985 Edit this on Wikidata
Los Angeles Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner UDA UDA
Galwedigaethdigrifwr, canwr, actor llais, actor llais, actor Edit this on Wikidata
Gwobr/au'Disney Legends', Gwobr Inkpot Edit this on Wikidata

Fe'i aned yng nghymuned gwledig Watonga, Oklahoma. Mae stryd yn ei dref enedigol wedi ei enwi er anrhydedd iddo. Ym 1993, fe'i urddwyd i restr Arwyr Disney (Disney Legends) am ei gyfraniad i ffilmiau Walt Disney.

Gyrfa Cynnar

Daeth Nash i amlygrwydd cynnar fel dynwaredwr ar sianel radio KHJ yn Los Angelese yn niwedd y 1920au. Roedd yn ymddangos mewn sioe o'r enw The Merrymakers. Wedyn cafodd ei gyflogi gan gwmni gwerthu llaeth. Roedd yn tramwyo'r strydoedd gyda gwedd o geffylau bychan gan dynwared trydar adar ac yn rhoi rhoddion i blant er mwyn codi cyhoeddusrwydd i'r cwmni.

Ym 1932, aeth Nash heibio stiwdio Disney gyda'i wedd o geffylau gan adael deunydd cyhoeddusrwydd gyda'r derbynnydd. Roedd Walt Dinsey wedi ei glywed ychydig dyddiau ynghynt ar y rhaglen The Merrymakers, ac roedd ei dynwarediadau wedi gwneud argraff arno. Wedi deallt y cysylltiad rhwng y dyn ar y radio a'r dyn hybu llaeth, gofynodd Disney i Nash gwneud clyweliad.

Donald Duck

Yn y clyweliad aeth Nash trwy nifer o'i leisiau, a digwyddodd Walt Disney mynd heibio pan oedd Nash yn dynwared teulu o hwyaid. Roedd Disney o'r farn y byddai dynwarediad Nash yn berffaith ar gyfer rôl llais hwyaden anthropomorffig roedd wrthi'n creu ar gyfer y ffilm The Wise Little Hen. Yr hwyaden oedd Donald Duck, ac aeth Nash ymlaen i'w leisio am bron i 50 mlynedd, mewn dros 120 o ffilmiau. Y ffilm olaf i gynnwys llais enwog Nash oedd Mickey's Christmas Carol ym 1983, er ei fod yn parhau i roi llais i Donald ar gyfer hysbysebion, deunydd hyrwyddo a deunydd amrywiol eraill hyd ei farwolaeth.

Aeth Donald Duck ymlaen i fod yn un o'r cymeriadau cartŵn mwyaf enwog yn y byd. Roedd rhan fawr o'i lwyddiant oherwydd llais Nash. Mae'r llais yn nodedig am ei ansawdd hwylus a'r ffaith ei fod yn aml yn anodd iawn i unrhyw un ei ddeall, yn enwedig pan fu Donald yn colli ei limpyn (a ddigwyddodd yn eithaf aml).

Cymeriadau eraill

Yn ogystal â llais Donald, bu Nash hefyd yn lleisio Daisy Duck (yn ei ymddangosiadau cynharaf, pan nad oedd hi'n llawer mwy na fersiwn benywaidd o Donald), yn ogystal â'i neiaint Donald Huey, Dewey a Louie. Rhoddodd y llais i'r cymeriad PJ yn y cartŵn Bellboy Donald ac i'r marchlyffant yn Bambi. Bu'n lleisio Figaro'r gath fach mewn llond llaw o ffilmiau byr a gwnaeth rhai o'r synau cŵn yn One Hundred and One Dalmatians. Lleisiodd Jiminy Cricket hefyd am gyfnod byr ar ôl marwolaeth Cliff Edwards, y llais gwreiddiol ym 1971. Bu Nash yn cyflenwi mewian a sgrechfeydd ar gyfer Tom yn Tom a Jerry. Daeth ei berfformiad olaf yn Tom a Jerry yn Mouse in Manhattan (1945), gan actio lleisiau'r cathod stryd cefn treisgar.

Ymddangosiadau personol

Ymddangosodd Nash fel ei hun yn ffilm The Reluctant Dragon, 1941, sy'n dangos sut mae ffilmiau Disney yn cael eu cynhyrchu, ac roedd yn gystadleuydd ar bennod 1954 o What's My Line. a phennod 1964 o To Tell the Truth. Ymddangosodd Nash hefyd fel ei hun ym mhennod Disneyland ym 1956 dan y teitl "A Day in the Life of Donald Duck", lle mae'n rhyngweithio â'r Donald animeiddiedig sy'n beio Nash am ei broblemau lleferydd: oherwydd tymer byr Donald mae'r sgwrs rhwng y ddau yn troi'n ddadl ffyrnig. Bu hefyd yn westai ar bennod 1976 o Sioe Mike Douglas. Roedd 50fed Pen-blwydd Donald Duck yn 1984 yn cynnwys sawl clip o ffilmiau Disney a pherfformiadau Disneyland ac ymddangosiadau personol gan Nash.

Marwolaeth

Clarence Nash 
Bedd Clarence a Margaret Nash

Bu farw Nash o lewcemia mewn ysbyty yn Burbank, California yn 80 mlwydd oed. Claddwyd ei weddillion ym mynwent San Fernando Mission, Los Angeles, California wrth ochr Margaret ei wraig. Mae cerfiad ar eu carreg bedd o Daisy a Donald Duck yn dal dwylo.

Cyfeiriadau

Tags:

Clarence Nash Gyrfa CynnarClarence Nash Donald DuckClarence Nash Cymeriadau eraillClarence Nash Ymddangosiadau personolClarence Nash MarwolaethClarence Nash CyfeiriadauClarence Nash1904198520 Chwefror7 RhagfyrDaisy DuckDonald DuckHuey, Dewey a LouieThe Walt Disney CompanyUnol Daleithiau America

🔥 Trending searches on Wiki Cymraeg:

Cefnfor IndiaMean MachineAffrica892Street FighterBronnoethHarri VIII, brenin LloegrGhanaCymru a'r Cymry ar stampiauKevin Michael Richardson1 MaiUsenetHannah MontanaPabellRwsiaSlofenegAnonymous (cymuned)NeroPlanhigyn blodeuolCernywegLabiaYiddishLlydaweg1937Pam Fi Duw? (cyfres deledu)Rhywedd anneuaiddGlasgowPab Ioan Pawl IMesopotamiaLlinyn TrônsLloegrCarolyn Hitt30 MediJungo FujimotoNeu Unrhyw Declyn ArallConnecticutGambiaSiartiaethCernyweg UnedigEwropRhyddfrydiaethHawlfraintFrank Lloyd WrightThe Salton SeaHollt GwenerCynnwys rhyddYr Ail Ryfel BydSafleoedd rhywHafanUndeb llafurTalaithYsgol Gymraeg Melin GruffyddPengwinHydrogenMentrau Iaith CymruMenter Gorllewin Sir GârEagle EyeXHamsterThe Disappointments RoomHentai KamenSiot dwad wynebGoogle BooksStygianPidynSenedd CymruSolomon and ShebaRhestr o wledydd gyda CMC y pen llai na ChymruL'auto Di Robinet🡆 More