Abad a sant oedd Ceitho (fl.
6g). Yn ôl traddodiad roedd yn un o bum mab Cynyr Farfdrwch o Gynwyl Gaio, un o ddisgynyddion Cunedda Wledig. Gyda'i frodyr Gwynno, Gwynoro, Celynin a Gwyn, daeth yn sant; mae enw tref Llanpumsaint yn coffau'r pum sant hyn. Dethlir ei ddydd gŵyl ar 5 Awst.
Ceitho | |
---|---|
Dinasyddiaeth | Cymru |
Swydd | abad |
Mae Ceitho yn nawddsant plwyf Llangeitho, Ceredigion, ac mae'n debyg ei bod wedi sefydlu clas neu gell meudwy yno. Ceir Ffynnon Ceitho ger pentref Llangeitho, sydd i fod yn oer yn yr haf ond yn gynnes yn y gaeaf.
This article uses material from the Wikipedia Cymraeg article Ceitho, which is released under the Creative Commons Attribution-ShareAlike 3.0 license ("CC BY-SA 3.0"); additional terms may apply (view authors). Rhoddir testun y dudalen ar gael ar delerau'r drwydded CC BY-SA 4.0, heblaw ei fod wedi nodi'n wahanol. Images, videos and audio are available under their respective licenses.
®Wikipedia is a registered trademark of the Wiki Foundation, Inc. Wiki Cymraeg (DUHOCTRUNGQUOC.VN) is an independent company and has no affiliation with Wiki Foundation.