Testun y llyfr Byd y Dyn Hysbys: Swyngyfaredd yng Nghymru (Y Lolfa 1977) gan Kate Bosse-Griffiths yw archwiliad o hanes y Dyn Hysbys yng Nghymru, yn bennaf ar sail hanes dau Ddyn Hysbys: John Harries, Cwrtycadno, a Dyn Hysbys dienw o Sir Ddinbych.
Yn ogystal â hynny ceir trafodaeth ar ddewiniaeth o wahanol gyfnodau hanesyddol, yng Nghymru a thu hwnt, ac enghreifftiau o ymarferion, defodau a swynion.
Mae rhannau helaeth o'r llyfr yn edrych ar gynnwys Llyfr Cyfrin (sy'n debyg i Lyfr y Cysgodion yn Wica) o Sir Ddinbych. Ysgrifennwyd y Llyfr Cyfrin gan ddewin dienw oedd yn byw yn Sir Ddinbych yn y 19g gynnar. Casgliad o swynion yn Gymraeg a Saesneg ydyw, gyda'r defnydd yn amrywio o ddefodau i alw ar y Tylwyth Teg a swynion "dadreibio" Cymreig i ddefnydd Hermetig, defodau Enochaidd, daeargoel ac astroleg. Mae copi ar gael ar gais yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru.
I Rhagarweiniad: Y Lle Cynefin td 7
II Y Dyn Hysbys td 15
III Llyfr Cyfrin Y Dyn Hysbys td 38
IV Swyn a Llun td 51
V Iachau Swyngyfareddol td 68
VI Darogan td 82
VII Dirgelion td 94
VIII Y Gelfyddyd Ddu td 102
IX Y Tylwyth Teg td 116
Llyfryddiaeth td 135
Mynegai td 139
Rhestr Lluniau td 143
This article uses material from the Wikipedia Cymraeg article Byd y Dyn Hysbys, which is released under the Creative Commons Attribution-ShareAlike 3.0 license ("CC BY-SA 3.0"); additional terms may apply (view authors). Rhoddir testun y dudalen ar gael ar delerau'r drwydded CC BY-SA 4.0, heblaw ei fod wedi nodi'n wahanol. Images, videos and audio are available under their respective licenses.
®Wikipedia is a registered trademark of the Wiki Foundation, Inc. Wiki Cymraeg (DUHOCTRUNGQUOC.VN) is an independent company and has no affiliation with Wiki Foundation.