Sect Gristnogol ddeuolaidd oedd Bogomiliaeth a ffynnai yn y Balcanau o'r 10g i'r 15g.
Sefydlwyd tua 950 gan yr offeiriad Bogomil yn Ymerodraeth Bwlgaria trwy gyfuno athrawiaethau deuolaidd y newydd-Manicheaid—yn enwedig y Pawliciaid o Armenia ac Asia Minor—â mudiad lleol o ddiwygwyr efengylaidd yn Eglwys Uniongred Bwlgaria.
Cosmoleg ddeuolaidd, newydd-Gnostigaidd oedd wrth wraidd yr athrawiaeth Fogomilaidd: credent i'r diafol greu'r byd materol, ac felly bod arferion megis priodas, bwyta cig, ac yfed gwin, yn annuwiol. Gwrthodasant nifer o athrawiaethau a defodau'r Eglwys Uniongred, gan gynnwys ymgnawdoliad yr Iesu, y bedydd, a'r Ewcharist.
Lledaenodd Bogomiliaeth ar draws yr Ymerodraeth Fysantaidd yn y 11g a'r 12g. Yng Nghaergystennin, tua 1100, rhoddwyd Bogomiliaid blaenllaw ar brawf a llosgwyd eu harweinydd, Basil. Yn y 13g a'r 14g, anfonodd Rhufain sawl cenhadaeth o Ffransisiaid i fwrw heresïau, gan gynnwys Bogomiliaeth, allan o Fosnia. Lledaenodd Bogomiliaeth hefyd i Orllewin Ewrop ar ffurf Cathariaeth. Daliodd y Bogomiliaid eu tir ym Mwlgaria hyd at ddiwedd y 14g, er i'r Eglwys Uniongred alw sawl cyngor eglwysig i gondemnio eu gau-athrawiaethau. Diflannodd y Bogomiliaid yn sgil gorchfygiad y Balcanau gan yr Ymerodraeth Otomanaidd yn y 15g. Gwelir olion y traddodiad deuolaidd yn llên gwerin y Slafiaid Deheuol a châi Bogomiliaeth ddylanwad ar ffurf unigryw y Bosniaciaid ar Islam.
This article uses material from the Wikipedia Cymraeg article Bogomiliaeth, which is released under the Creative Commons Attribution-ShareAlike 3.0 license ("CC BY-SA 3.0"); additional terms may apply (view authors). Rhoddir testun y dudalen ar gael ar delerau'r drwydded CC BY-SA 4.0, heblaw ei fod wedi nodi'n wahanol. Images, videos and audio are available under their respective licenses.
®Wikipedia is a registered trademark of the Wiki Foundation, Inc. Wiki Cymraeg (DUHOCTRUNGQUOC.VN) is an independent company and has no affiliation with Wiki Foundation.