Bill Maynard

Roedd Walter Frederick George Williams (8 Hydref 1928 – 30 Mawrth 2018), a oedd yn cael ei adnabod dan ei enw llwyfan Bill Maynard, yn gomedïwr ac yn actor o Loegr.

Bill Maynard
GanwydWalter Frederick George Williams Edit this on Wikidata
8 Hydref 1928 Edit this on Wikidata
Farnham Edit this on Wikidata
Bu farw30 Mawrth 2018 Edit this on Wikidata
o marwolaeth drwy gwymp Edit this on Wikidata
Swydd Gaerlŷr Edit this on Wikidata
Dinasyddiaethy Deyrnas Unedig Edit this on Wikidata
Galwedigaethactor, actor teledu, digrifwr stand-yp, pêl-droediwr, actor llwyfan Edit this on Wikidata
Cyflogwr
PriodTonia Bern Edit this on Wikidata
Chwaraeon
Tîm/auKettering Town F.C. Edit this on Wikidata

Bywyd personol

Ganwyd Maynard yn 5 Oak Cottages, Heath End, Farnham, Surrey, a mynychodd Ysgol Ramadeg Kibworth Beauchamp yn Swydd Gaerlŷr.

Priododd Muriel Linnett ar 5 Tachwedd 1949, bu iddynt dau fab gan gynnwys y cerddor Martin Maynard Williams.  Bu farw Muriel ym mis Mehefin 1983. Ar 4 Medi 1989 priododd Tonia Bern gweddw yr ymgeisydd am recordiau cyflymder Donald Cambell.

Gyrfa fel perfformiwr

Dechreuodd fel perfformiwr amrywiol, gan gymryd ei gyfenw proffesiynol o fwrdd hysbysebu Maynard's Wine Gums, melysion poblogaidd ar y pryd. Bu ei ymddangosiad cyntaf ar y teledu ar Henry Hall’s Face the Music ar 12 Medi 1953.

Roedd yn rhan o'r tîm a gyflwynodd the One O'Clock Show ar gyfer Teledu Tyne Tees yn Newcastle (1959-64). Ymddangosodd yn nrama teledu Dennis Potter, Paper Roses (1971), am y diwrnod olaf ym mywyd gohebydd. Ymddangosodd yn nrama teledu Colin Welland, Kisses at Fifty (1973). Tua'r un pryd, bu Maynard yn gweithio gyda'r actor teledu a'r comedïwr Ronnie Barker yn "Football Blues" cafodd ei ddarlledu ar y teledu fel "Spanners Eleven".

Ar ôl chware ran yn y bennod beilot yn 1974, bu'n serennu yn sitcom Teledu Yorkshire, Oh No, it's Selwyn Froggitt! (1976-78) gan chwarae rôl Selwyn y teitl. Darlledwyd y rhaglen am bedair cyfres. Bu hefyd yn gweithio i gwmni Yorkshire gan chware ran Fred Moffatt yn The Gaffer (1981-83).

Yn y 1970au chwaraeodd Maynard rhannau bach ym mhump o ffilmiau'r gyfres Carry On, gan gynnwys Carry On Matron (1972) a Carry On Dick (1974). Roedd ganddo rôl ffilm fel Mr Hinchcliffe ffermwr yn Swydd Efrog yn It Shouldn't Happen to a Vet (1975).

Ym mis Ebrill 1992, dychwelodd i gwmni Yorkshire i chwarae rhan Claude Jeremiah Greengrass yn y gyfres deledu boblogaidd Heartbeat gan aros yn y sioe hyd ddiwedd y gyfres ym mis Rhagfyr 2000, a'i gyfres olynol The Royal hyd 2003.

Teledu a ffilm

  • Till Death Us Do Part (1968) – Bert
  • It All Goes to Show (1969) – Mike Sago
  • One More Time (1970) – Jenson
  • Carry On Loving (1970) – Mr. Dreery
  • A Hole Lot of Trouble (1971) – Bill
  • Carry On Henry (1971) – Guy Fawkes
  • Carry On at Your Convenience (1971) – Fred Moore
  • Carry On Matron (1972) – Freddy
  • Four Dimensions of Greta (1972) – Big Danny
  • Bless This House (1972) – Oldham
  • Adolf Hitler: My Part in His Downfall (1973) – Sgt. Ellis
  • Never Mind the Quality Feel the Width (1973) – Larkin
  • Kisses at Fifty, a Play for Today (Teledu, 1973) – Harry
  • Seven of One (Teledu, 1973) – Councillor Todd
  • Steptoe and Son Ride Again (1973) – George
  • Oh No, It's Selwyn Froggitt! (Teledu, 1974–1978) – Selwyn Froggitt
  • Carry On Dick (1974) – Bodkin
  • Confessions of a Window Cleaner (1974) – Mr. Lea
  • Man About the House (1974) – Chef
  • The Life of Riley (Teledu, 1975) – Frank Riley
  • Confessions of a Pop Performer (1975) – Mr. Lea
  • The Sweeney "Supersnout" (Teledu, 1975) – Det. Chief Insp. Stephen Quirk
  • Robin and Marian (1976) – Mercadier
  • Confessions of a Driving Instructor (1976) – Mr. Lea
  • It Shouldn't Happen to a Vet (1976) – Hinchcliffe
  • Confessions from a Holiday Camp (1977) – Mr. Lea
  • Paradise Island (Teledu, 1977) - Rev. Alexander Goodwin
  • Sky Pirates (1977) – Charlie
  • The Gaffer (Teledu, 1981–1983) – Fred Moffatt
  • The Plague Dogs (1982) – Editor (voice)
  • Minder "The Second Time Around" (Teledu, 1984) - Barney Todd
  • In Sickness and in Health (Teledu, 1985–1992) – Bert Luscombe
  • Oddball Hall (1990) – Copperthewaite
  • Screen One: Filipina Dreamgirls (Teledu, 1991) – George Trout
  • Heartbeat (Teledu, 1992–2000) (155 pennod) – Claude Jeremiah Greengrass
  • Dalziel and Pascoe "Dialogues of the Dead" (2002) – Councillor Cyril Steel
  • The Royal (Teledu, 2003) (saith pennod) – Claude Greengrass
  • Broken Nation (2015)
  • The Moorside (2016) – Cecil

Gwybodaeth amgen

Roedd Maynard yn gefnogwr brwd o Gategori Fformiwla 1 rasio ceir Stoc BriSCA, ac fe'i gwelwyd yn rheolaidd yn gwylio'r rasys yn Long Eaton, Stadiwm Caerlŷr a Stadiwm Coventry. Noddodd y gyrrwr Pete Doran (428) o Hinckley am flynyddoedd lawer. Recordiodd can doniol o'r enw o'r enw "Stock Car Racing is Magic!" cafodd ei ryddhau ym 1979. Mae'r can yn  dal i gael ei chwarae mewn cyfarfodydd car stoc.

Roedd yn destun This Is Your Life ym 1974 pan gafodd ei gyflwyno efo'r llyfr coch gan Eamonn Andrews.

Ysgrifenned dau hunangofiant The Yo-Yo Man ym 1975 a Stand Up...And Be Counted ym 1997.

Gwleidyddiaeth

Safodd Maynard yn erbyn Tony Benn mewn isetholiad yn etholaeth Chesterfield ym 1984 fel ymgeisydd Llafur Annibynnol. Ei bwriad oedd dwyn rhywfaint o'r bleidlais Lafur er mwyn rhwystro ethol Benn. Bu'r ymgais yn aflwyddiannus a llwyddodd Benn i gadw'r sedd i Lafur, daeth Maynard yn bedwaredd. Pe bai bwriad Maynard wedi llwyddo byddai'r ymgeisydd Ceidwadol wedi ennill. Yr ymgeisydd Ceidwadol oedd yr Athro Nick Bourne, a aeth ymlaen i fod yn arweinydd y grŵp Ceidwadol yng Nghynulliad Cymru o 1999 i 2011

Marwolaeth

Yn ei flynyddoedd olaf bu  Maynard yn byw efo anawsterau symud o ganlyniad i gael ei daro gan strociau lluosog.  Bu farw yn yr ysbyty ar 30 Mawrth 2018, ychydig ar ôl cwympo oddi ar sgwter symudedd a thorri ei glun.

Cyfeiriadau

Tags:

Bill Maynard Bywyd personolBill Maynard Gyrfa fel perfformiwrBill Maynard Teledu a ffilm[4]Bill Maynard Gwybodaeth amgenBill Maynard GwleidyddiaethBill Maynard MarwolaethBill Maynard CyfeiriadauBill Maynard1928201830 Mawrth8 HydrefActorDigrifwr

🔥 Trending searches on Wiki Cymraeg:

Coeur d'Alene, IdahoMiller County, ArkansasJohn BallingerPrairie County, ArkansasOes y DarganfodSiarl III, brenin y Deyrnas UnedigMarion County, OhioTelesgop Gofod HubbleTebotVan Buren County, ArkansasPDGFRBPen-y-bont ar Ogwr (sir)David Lloyd GeorgeSex and The Single GirlTîm pêl-droed cenedlaethol WrwgwáiCheyenne County, NebraskaGreensboro, Gogledd CarolinaY MedelwrFrank SinatraRobert GravesMulfranEagle EyeYr AntarctigMonett, MissouriMaddeuebFaulkner County, ArkansasGrant County, NebraskaSertralinGwanwyn PrâgToo Colourful For The LeagueY Rhyfel Byd CyntafDakota County, NebraskaSigwratCAMK2BArolygon barn ar annibyniaeth i GymruBridge of WeirRandolph, New JerseyMount Healthy, OhioWest Fairlee, VermontNevada County, ArkansasEtta JamesSearcy County, ArkansasLafayette County, ArkansasBlack Hawk County, IowaY Rhyfel OerCarroll County, OhioIeithoedd CeltaiddLabordyCrawford County, ArkansasRhyfel Cartref AmericaAwdurdodMawritaniaChatham Township, New JerseyJames CaanJefferson DavisWilliam BaffinAnna MarekGarudaMargaret BarnardSiot dwad wynebRoxbury Township, New JerseyR. H. RobertsCyfarwyddwr ffilmTywysog CymruVan Wert County, OhioOlivier MessiaenCyfansoddair cywasgedigByseddu (rhyw)Mae Nosweithiau Niwlog Rio De Janeiro yn DdwfnCelia Imrie🡆 More