Cert fechan gydag olwyn ar un ochr a choesau a breichiau ar yr ochr arall yw berfa neu wilber.
Defnyddir i godi a chludo llwythi, gan amlaf yn yr ardd neu ar safle adeiladu. Dodir y llwyth ynddi a chaiff y breichiau eu codi, gan dynnu'r coesau oddi ar y ddaear, i wthio'r ferfa ar ei ffordd. Pan cyrhaeddir y man dadlwytho, gellir symud y llwyth ymaith gan law neu drwy godi'r ferfa ar ei holwyn a thaflu'r llwyth allan.
Math | human-powered land vehicle, material-handling equipment, cart, outdoors, garden and lawn item |
---|---|
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Dyfeisiwyd y ferfa yn Tsieina, tua'r 1g CC. Mae'n bosib i'r ddyfais gyrraedd Ewrop trwy fasnachwyr Arabaidd, neu i'r Ewropeaid ei ddyfeisio hefyd, rhywbryd ar ôl y Tsieineaid.
Benthycwyd yr enw berfa o'r Saesneg Canol barwe neu berwe, sef trol neu gert ddwylo. Benthycwyd whilber neu wilber o'r enw Saesneg modern, wheelbarrow.
This article uses material from the Wikipedia Cymraeg article Berfa, which is released under the Creative Commons Attribution-ShareAlike 3.0 license ("CC BY-SA 3.0"); additional terms may apply (view authors). Rhoddir testun y dudalen ar gael ar delerau'r drwydded CC BY-SA 4.0, heblaw ei fod wedi nodi'n wahanol. Images, videos and audio are available under their respective licenses.
®Wikipedia is a registered trademark of the Wiki Foundation, Inc. Wiki Cymraeg (DUHOCTRUNGQUOC.VN) is an independent company and has no affiliation with Wiki Foundation.