Un o ynysoedd Ynysoedd Allanol Heledd yng ngogledd-orllewin yr Alban yw Beinn na Faoghla neu Beinn nam Faoghla (Saesneg: Benbecula).
Saif rhwng Uibhist a Tuath, o'r gogledd. ac Uibhist a Deas, i'r de. Mae priffordd yr A865 yn ei chysylltu a'r ynysoedd hyn.
Math | ynys |
---|---|
Prifddinas | Baile a' Mhanaich |
Poblogaeth | 1,303 |
Daearyddiaeth | |
Rhan o'r canlynol | Ynysoedd Allanol Heledd |
Sir | Ynysoedd Allanol Heledd |
Gwlad | Yr Alban |
Arwynebedd | 82.3 km² |
Uwch y môr | 124 metr |
Gerllaw | Sea of the Hebrides |
Cyfesurynnau | 57.4458°N 7.3196°W |
Tir isel yw'r ynys, gyda'r copa uchaf, Ruibheal, 124 medr uwch lefel y môr. Mae tua 10 km o'r gogledd i'r de. Prif bentref yr ynys yw Baile a Mhanaich (Balivanich); mae maes awyr bychan ychydig i'r gogledd-ddwyrain ar benrhyn An Tom. Ymhlith y pentrefi eraill mae Griminis, Cnoc a Monach, Torlum, Dun Gammhich, Uachdar a Gramsdal. Mae gan Lionacleit ysgol uwchradd (sydd hefyd yn ganolfan i’r gymuned) gyda llyfrgell, pwll nofio, caffi ac amgueddfa. Mae hefyd campws Coleg Castell Lews yn Lionacleit. Mae archfarchnad yn Creagorry.
Yn 1958, sefydlwyd canolfan filwrol ar Beinn na Faoghla, sydd wedi cael rhywfaint o effaith ar boblogaeth yr ynys. Erbyn hyn mae tua 1,300 o drigolion, gyda 56% yn siaradwyr Gaeleg yng ngyfrifiad 2001.
Cynhelir Gŵyl Eilean Dorcha ar yr ynys, yn denu bron 4,000 o bobl yn 2019.
This article uses material from the Wikipedia Cymraeg article Beinn na Faoghla, which is released under the Creative Commons Attribution-ShareAlike 3.0 license ("CC BY-SA 3.0"); additional terms may apply (view authors). Rhoddir testun y dudalen ar gael ar delerau'r drwydded CC BY-SA 4.0, heblaw ei fod wedi nodi'n wahanol. Images, videos and audio are available under their respective licenses.
®Wikipedia is a registered trademark of the Wiki Foundation, Inc. Wiki Cymraeg (DUHOCTRUNGQUOC.VN) is an independent company and has no affiliation with Wiki Foundation.