Teitl anrhydedd yn is na barwn yw barwnig (talfyriad: 'Bart' neu 'Bt').
Ym Mhrydain mae yn rhodd y Goron fel baronetcy ers dyddiau Iago I o Loegr, a ddechreuodd eu gwerthu yn 1611 er mwyn codi arian. Un o'r uchelwyr a fanteisiodd ar y cyfle oedd Syr John Wynn o Wydir.
Ceir teitlau sy'n cyfateb i farwnig yn Ewrop, sef Nobile yn yr Eidal ac Edler von yn Awstria a De'r Almaen. Mae'r teitlau marchogion Almaenig ac Awstraidd Ritter a'r erfridder Iseldiraidd yn gyffelyb.
Bachigyn o'r gair 'barwn' yw 'barwnig'. Mae'n gorwedd hanner ffordd rhwng safle 'barwn' a 'marchog' (sy'n is).
This article uses material from the Wikipedia Cymraeg article Barwnig, which is released under the Creative Commons Attribution-ShareAlike 3.0 license ("CC BY-SA 3.0"); additional terms may apply (view authors). Rhoddir testun y dudalen ar gael ar delerau'r drwydded CC BY-SA 4.0, heblaw ei fod wedi nodi'n wahanol. Images, videos and audio are available under their respective licenses.
®Wikipedia is a registered trademark of the Wiki Foundation, Inc. Wiki Cymraeg (DUHOCTRUNGQUOC.VN) is an independent company and has no affiliation with Wiki Foundation.