Baner drilliw lorweddol gyda stribed uwch gwyn, stribed canol glas, a stribed is coch gyda'r arfbais genedlaethol wedi'i gosod yng nghanol y faner tuag at y hoist yw baner Slofacia.
Mae'r lliwiau yn lliwiau y mudiad pan-Slafaidd. Defnyddiwyd yn gyntaf yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg i efelychu baner Rwsia; edrychodd y Slofaciaid i'r Rwsiaid am gymorth wrth ennill annibyniaeth oddi ar Deyrnas Hwngari. O 1919 tan 1993 roedd Slofacia'n rhan o Tsiecoslofacia ynghyd â'r Weriniaeth Tsiec; defnyddiwyd baner Tsiecoslofacia.
Yn ystod yr Ail Ryfel Byd defnyddiwyd baner drilliw lorweddol gyda stribedi gwyn, glas, a choch gyda'r arfbais yn y canol. Mabwysiadwyd y dyluniad cyfredol ar 1 Medi, 1992.
This article uses material from the Wikipedia Cymraeg article Baner Slofacia, which is released under the Creative Commons Attribution-ShareAlike 3.0 license ("CC BY-SA 3.0"); additional terms may apply (view authors). Rhoddir testun y dudalen ar gael ar delerau'r drwydded CC BY-SA 4.0, heblaw ei fod wedi nodi'n wahanol. Images, videos and audio are available under their respective licenses.
®Wikipedia is a registered trademark of the Wiki Foundation, Inc. Wiki Cymraeg (DUHOCTRUNGQUOC.VN) is an independent company and has no affiliation with Wiki Foundation.