Baner ddeuliw lorweddol gyda stribed uwch coch a stribed is gwyn yw baner Indonesia.
Mae'n seiliedig ar faner Ymerodraeth Majapahit y 13g: coch a gwyn oedd lliwiau sanctaidd Indonesia yn y cyfnod hwnnw. Cafodd y lliwiau eu hadfer yn yr ugeinfed ganrif i gynrychioli cenedlaetholdeb Indonesaidd yn erbyn yr Iseldiroedd, a oedd wedi rheoli'r wlad ers 1800. Mabwysiadwyd y dyluniad cyfredol ar 17 Awst, 1945, pan ddatganodd Indonesia ei hannibyniaeth oddi wrth yr Iseldiroedd; enillwyd annibyniaeth lwyr yn 1949.
Mae coch yn symbol o fywyd corfforol, tra bo gwyn yn symboleiddio bywyd ysbrydol yr enaid; gyda'i gilydd maent yn cynrychioli'r bod dynol. Yn ogystal mae coch a gwyn yn lliwiau tradoddiadol yn Ne Ddwyrain Asia.
Mae'r un fath â baner Monaco, ac eithrio'u cyfraneddau (2:3 yw baner Indonesia o gymharu â 4:5).
This article uses material from the Wikipedia Cymraeg article Baner Indonesia, which is released under the Creative Commons Attribution-ShareAlike 3.0 license ("CC BY-SA 3.0"); additional terms may apply (view authors). Rhoddir testun y dudalen ar gael ar delerau'r drwydded CC BY-SA 4.0, heblaw ei fod wedi nodi'n wahanol. Images, videos and audio are available under their respective licenses.
®Wikipedia is a registered trademark of the Wiki Foundation, Inc. Wiki Cymraeg (DUHOCTRUNGQUOC.VN) is an independent company and has no affiliation with Wiki Foundation.