Baner drilliw fertigol gyda stribed chwith gwyrdd, stribed dde melyn a stribed canol coch gyda seren felen yn ei ganol yw baner Camerŵn.
Cynrychiola gobaith gan wyrdd, undod gan goch a'r seren, a ffyniant gan felyn; mae'r lliwiau hefyd yn lliwiau pan-Affricanaidd.
Trefedigaeth Almaenig oedd Kamerun o 1884 i 1916 cyn y rhannwyd rhwng Ffrainc a Phrydain yn dilyn y Rhyfel Byd Cyntaf. Daeth yr ardal Ffrengig, Camerŵn, yn ymreolaethol ar 1 Ionawr 1959 ac yna'n annibynnol ar 1 Ionawr 1960 a mabwysiadwyd baner drilliw werdd-goch-felen yn seiliedig ar Tricolore Ffrainc; hon oedd yr ail faner genedlaethol yng Ngorllewin Affrica i ddefnyddio'r lliwiau pan-Affricanaidd, ar ôl Ghana, a seiliwyd ei hun lliwiau'r faner ar liwiau baner Ethiopia a ddaeth yn liwiau'r mudiad Pan-Affricanaidd dros fudiadau annibyniaeth i bobloedd ddu y cyfandir, a thu hwnt.
Yn 1961 ymunodd yr ardal Brydeinig, Southern Cameroons, â'r gyn-drefedigaeth Ffrengig i ffurfio Gweriniaeth Camerŵn, ac ychwanegwyd dwy seren felen yn hanner uchaf y stribed gwyrdd. Ar 20 Mai 1975 mabwysiadwyd y dyluniad cyfredol: diddymwyd y ddwy seren a gosodwyd seren unigol yng nghanol y faner i symboleiddio undod y wladwriaeth newydd.
This article uses material from the Wikipedia Cymraeg article Baner Camerŵn, which is released under the Creative Commons Attribution-ShareAlike 3.0 license ("CC BY-SA 3.0"); additional terms may apply (view authors). Rhoddir testun y dudalen ar gael ar delerau'r drwydded CC BY-SA 4.0, heblaw ei fod wedi nodi'n wahanol. Images, videos and audio are available under their respective licenses.
®Wikipedia is a registered trademark of the Wiki Foundation, Inc. Wiki Cymraeg (DUHOCTRUNGQUOC.VN) is an independent company and has no affiliation with Wiki Foundation.