Carchardy enwog ar Ynys Alcatraz ym Mae San Francisco, gyferbyn â dinas San Francisco ei hun, yn Califfornia, yr Unol Daleithiau (UDA), yw Carchar Alcatraz.
Sefydlwyd carchar diogelwch uchel ar yr ynys yn 1932 a ddaeth yn ddrwgenwog am lymder ei disgyblaeth ac yn ddihareb am rywle amhosibl i ddianc ohono. Serch hynny llwyddodd rhai o'r carcharorion i dorri allan yn 1962 a chafwyd ffilm am y digwyddiad yn 1979. Caewyd fel carchar yn 1969.
Math | United States Penitentiaries, amgueddfa |
---|---|
Sefydlwyd | |
Daearyddiaeth | |
Sir | San Francisco |
Gwlad | Unol Daleithiau America |
Cyfesurynnau | 37.83°N 122.42°W |
Rheolir gan | Federal Bureau of Prisons |
Serenodd Burt Lancaster yn y ffilm boblogaidd The Birdman of Alcatraz (1962) am garcharor sy'n treulio ei flynyddoedd yn Alcatraz yn astudio ornitholeg ac sy'n dod yn arbenigwr byd-enwog ar adar.
Yn 1979, saethwyd y ffilm Escape From Alcatraz, yn serennu Clint Eastwood, sy'n seiliedig ar y digwyddiad yn 1962.
This article uses material from the Wikipedia Cymraeg article Carchar Alcatraz, which is released under the Creative Commons Attribution-ShareAlike 3.0 license ("CC BY-SA 3.0"); additional terms may apply (view authors). Rhoddir testun y dudalen ar gael ar delerau'r drwydded CC BY-SA 4.0, heblaw ei fod wedi nodi'n wahanol. Images, videos and audio are available under their respective licenses.
®Wikipedia is a registered trademark of the Wiki Foundation, Inc. Wiki Cymraeg (DUHOCTRUNGQUOC.VN) is an independent company and has no affiliation with Wiki Foundation.