Bardd Cymreig a oedd, yn ôl Iolo Morganwg, yn awdur y gân adnabyddus Bugeilio'r Gwenith Gwyn oedd Wiliam Hopcyn, mwy adnabyddus fel Wil Hopcyn (1700 - 1741).
Wil Hopcyn | |
---|---|
Ganwyd | 1700 |
Bu farw | 1741 |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Galwedigaeth | bardd |
Ganed ef yn Llangynwyd, Tir Iarll, Sir Forgannwg, yn awr bwrdeisdref sirol Pen-y-bont ar Ogwr. Cofnodir iddo gyfansoddi cerdd o sen i'r prydyddion yn eisteddfod y Cymer yn 1735.
Iolo Morganwg a honodd iddo gyfansoddi Bugeilio'r Gwenith Gwyn, a datblygwyd y stori ymhellach gan ei fab, Taliesin ab Iolo. Dywedir fod Wil Hopcyn mewn cariad ag Ann Thomas, mwy adnabyddus fel y Ferch o Gefn Ydfa. Yn ôl traddodiad, gorfodwyd Ann i briodi Anthony Addocks yn erbyn ei hewyllys, a bu farw o dor-calon yn fuan wedyn. Hi oedd testun y gân adnabyddus Bugeilio'r Gwenith Gwyn. Dywedir i Hopcyn gyfansoddi Bugeilio'r Gwenith Gwyn iddi. Ond mae'r ysgolhaig G. J. Williams wedi profi mai un o ffugiadau llenyddol niferus Iolo Morganwg yw'r fersiwn o'r gân a dadogir ganddo ar Wil Hopcyn. Ailwampiodd hen gân werin a oedd yn sôn am "fugeilio'r gwenith gwyn" ac ychwanegodd ati ac yna honni mai Wil Hopcyn a'i gyfansoddodd. Dengys y dystiolaeth mae rhan o brosiect arfaethedig gan Iolo i lunio cyfrol gyfan o gerddi serch wedi eu priodoli i Wil Hopcyn oedd hyn.
Mae gan Wicidestun destun sy'n berthnasol i'r erthygl hon: |
This article uses material from the Wikipedia Cymraeg article Wil Hopcyn, which is released under the Creative Commons Attribution-ShareAlike 3.0 license ("CC BY-SA 3.0"); additional terms may apply (view authors). Rhoddir testun y dudalen ar gael ar delerau'r drwydded CC BY-SA 4.0, heblaw ei fod wedi nodi'n wahanol. Images, videos and audio are available under their respective licenses.
®Wikipedia is a registered trademark of the Wiki Foundation, Inc. Wiki Cymraeg (DUHOCTRUNGQUOC.VN) is an independent company and has no affiliation with Wiki Foundation.