Gwleidydd Rwsiaidd yw Viktor Alekseyevich Zubkov (Rwsieg: Виктор Алексеевич Зубков) (ganed 15 Medi 1941).
Yn bennaeth ar y Gwasanaeth Ffederal dros Arolygaeth Cyllid ers 2001, enwebwyd ef gan yr Arlywydd Vladimir Putin fel olynydd y prif weinidog Mikhail Fradkov ar 12 Medi 2007. Cadarnhawyd ei enwebiad gan y Duma ar 14 Medi 2007.
Viktor Zubkov Виктор Зубков | |
| |
9fed Brif Weinidog Rwsia | |
Cyfnod yn y swydd 14 Medi 2007 – 7 Mai 2008 | |
Rhagflaenydd | Mikhail Fradkov |
---|---|
Olynydd | Vladimir Putin |
Geni | 15 Medi 1941 Kushva, Oblast Sverdlovsk |
Mae rhai sylwebyddion gwleidyddol yn gweld dyrchafiad Zubkov fel arwydd bod yr arlywydd presennol Vladimir Putin yn ei hybu i'w olynu ef yn yr etholiadau arlywyddol sydd i'w cynnal yn 2008. Byddai hyn yn dilyn patrwm gyrfa Putin ei hun, a ddaeth yn brif weinidog ar 9 Awst 1999, rhyw bum mis cyn ymddiswyddiad Boris Yeltsin. Mae eraill yn eu tro yn gweld Zubkov fel prif weinidog technegol fydd yn sicrhau parhâd dylanwad Putin ar lywodraeth Rwsia, ac yn gweld Putin yn hyrwyddo cystadleuaeth rhwng nifer o olynwyr posib megis Sergey Ivanov a Dmitry Medvedev.
This article uses material from the Wikipedia Cymraeg article Viktor Zubkov, which is released under the Creative Commons Attribution-ShareAlike 3.0 license ("CC BY-SA 3.0"); additional terms may apply (view authors). Rhoddir testun y dudalen ar gael ar delerau'r drwydded CC BY-SA 4.0, heblaw ei fod wedi nodi'n wahanol. Images, videos and audio are available under their respective licenses.
®Wikipedia is a registered trademark of the Wiki Foundation, Inc. Wiki Cymraeg (DUHOCTRUNGQUOC.VN) is an independent company and has no affiliation with Wiki Foundation.