Prifysgol ac oriel gelf yn Llundain yw Sefydliad Celf Courtauld (Saesneg: Courtauld Institute of Art), a sefydlwyd ym 1932.
Mae'n rhan o Brifysgol Llundain. Mae'n arbenigo mewn astudio hanes a chadwraeth celf; hon oedd y brifysgol gyntaf yng ngwledydd Prydain i gynnig hanes celf fel pwnc. Fe'i lleolir yn Somerset House, adeilad rhestredig Gradd I ar y Strand yn Ninas Westminster.
Math | prifysgol gyhoeddus |
---|---|
Ardal weinyddol | Llundain |
Sefydlwyd | |
Daearyddiaeth | |
Rhan o'r canlynol | Prifysgol Llundain |
Lleoliad | Llundain |
Sir | Llundain Fwyaf (Sir seremonïol) |
Gwlad | Lloegr |
Cod post | WC2R 0RN |
Sefydlwydwyd gan | Samuel Courtauld |
Lleolwyd y sefydliad yn Home House, tŷ Sioraidd crand a gynlluniwyd gan Robert Adam, yn wreiddiol. Symudodd i Somerset House, a fu gynt yn gartref i Academi Frenhinol y Celfyddydau, ym 1989–90. Yn yr oriel gelf ceir casgliad pwysig o weithiau gan yr Argraffiadwyr a'r Ôl-Argraffiadwyr a gasglwyd gan sylfaenydd y sefydliad, Samuel Courtauld (1876–1947)
This article uses material from the Wikipedia Cymraeg article Sefydliad Celf Courtauld, which is released under the Creative Commons Attribution-ShareAlike 3.0 license ("CC BY-SA 3.0"); additional terms may apply (view authors). Rhoddir testun y dudalen ar gael ar delerau'r drwydded CC BY-SA 4.0, heblaw ei fod wedi nodi'n wahanol. Images, videos and audio are available under their respective licenses.
®Wikipedia is a registered trademark of the Wiki Foundation, Inc. Wiki Cymraeg (DUHOCTRUNGQUOC.VN) is an independent company and has no affiliation with Wiki Foundation.