Ardal yng Nghaerdydd yw Radur (Seisnigiad: Radyr).
Mae'n rhan o gymuned Radur a Threforgan.
Math | dosbarth |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Sir | Dinas a Sir Caerdydd |
Gwlad | Cymru |
Cyfesurynnau | 51.51°N 3.26°W |
Cod OS | ST132802 |
Er ei bod yn un o faesdrefi Caerdydd heddiw, yn y gorffennol bu'n ardal ar wahân. Yma ar droad yr 16g safai plasdy Syr Wiliam Mathau, un o Fatheuaid Llandaf, fu'n gasglwr llawysgrifau a noddwr i feirdd Morgannwg, yn cynnwys y clerwr Lang Lewys (bl. 1480-1520).
Tua kilometr i'r gogledd saif hen domen o'r Oesoedd Canol, sef Castell Morgan.
This article uses material from the Wikipedia Cymraeg article Radur, which is released under the Creative Commons Attribution-ShareAlike 3.0 license ("CC BY-SA 3.0"); additional terms may apply (view authors). Rhoddir testun y dudalen ar gael ar delerau'r drwydded CC BY-SA 4.0, heblaw ei fod wedi nodi'n wahanol. Images, videos and audio are available under their respective licenses.
®Wikipedia is a registered trademark of the Wiki Foundation, Inc. Wiki Cymraeg (DUHOCTRUNGQUOC.VN) is an independent company and has no affiliation with Wiki Foundation.