Ardal yng ngorllewin Ymerodraeth Rwsia lle goddefid i Iddewon fyw yn barhaol oedd y Pâl gwladychiad (Rwsieg Черта оседлости / cherta osedlosti).
Ystyr y gair pâl yw polyn, ac, oddiyno, llinell neu ffin. Y Pâl oedd y llinell oedd yn llunio ffin yr ardal honno.
Crewyd y Pâl gyntaf gan Catrin Fawr ym 1791 (mewn gweithrediad o 28 Rhagfyr 1791). Roedd yn cwmpasu tiriogaeth heddiw Gwlad Pwyl, Lithwania, de Latfia, Belarws, rhan fwyaf Wcrain, Moldofa, ynghyd â rhai ardaloedd sydd heddiw yng ngorllewin Rwsia. Roedd y Pâl gwreiddiol yn cynnwys y Caucasus a thalaith Astrakhan yn ne Rwsia, ond neilltuwyd y taleithiau hyn ohono ym 1825. Goddefwyd i Iddewon fyw yn Kurland (de Latfia, gan gynnwys Riga), ond gwaharddwyd Iddewon newydd rhag gwladychu yno. Er i Kiev orwedd y tu fewn i'r Pâl, gorfodwyd i Iddewon fyw mewn ardaloedd penodol yn y ddinas. Roedd yna dair dinas arall yn y Pâl (Nikolaev, Yalta a Sevastopol) lle nad oedd Iddewon i fyw o gwbl. Caniatawyd i Iddewon mewn rhai galwedigaethau (marsiandwyr, pobl â graddau uwch, meddygon, swyddogion llywodraethol, rhai crefftwyr) fyw y tu allan i'r Pâl. Bu'r cyfyngiadau a roddwyd ar Iddewon yn y Pâl yn y 19g yn sbarduno llawer ohonynt i allfudo i'r Unol Daleithiau neu i ymuno â mudiadau chwyldroadol.
Diddymwyd y Pâl gan y Llywodraeth Dros Dro ym 1917 ar ôl Chwyldro Chwefror.
This article uses material from the Wikipedia Cymraeg article Pâl gwladychiad, which is released under the Creative Commons Attribution-ShareAlike 3.0 license ("CC BY-SA 3.0"); additional terms may apply (view authors). Rhoddir testun y dudalen ar gael ar delerau'r drwydded CC BY-SA 4.0, heblaw ei fod wedi nodi'n wahanol. Images, videos and audio are available under their respective licenses.
®Wikipedia is a registered trademark of the Wiki Foundation, Inc. Wiki Cymraeg (DUHOCTRUNGQUOC.VN) is an independent company and has no affiliation with Wiki Foundation.