Maes glo De Cymru yw'r mwyaf o'r ddau faes glo yng Nghymru.
Mae'n ymestyn am bron 90 milltir o Fae Sant-y-Brid yn y gorllewin i Bont-y-pwl yn y dwyrain gyda rhannau ohono yn siroedd Caerfyrddin, Abertawe, Castell-nedd Port Talbot, Pen-y-bont ar Ogwr, Rhondda Cynon Taf, Bro Morgannwg, Merthyr Tydfil, Caerdydd, Caerffili, Blaenau Gwent, Torfaen a Powys.
Mae'r maes glo yn fasn o greigiau Carbonifferaidd, a ffurfiwyd pan oedd Cymru yn rhan o uwchgyfandir Pangea ac yn wlad gwernydd yn agos i'r cyhydedd. Mae'r glo yn haen drwchus iawn, ond mae'n cynnwys haenau o dywodfaen a siâl hefyd. Mae natur y glo yn amrywio o un rhan o'r maes i'r llall. Yn Sir Gaerfyrddin, ceid glo carreg, tra'r oedd glo Cwm Rhondda yn lo ager, a ddefnyddid ar gyfer llongau ager.
This article uses material from the Wikipedia Cymraeg article Maes glo De Cymru, which is released under the Creative Commons Attribution-ShareAlike 3.0 license ("CC BY-SA 3.0"); additional terms may apply (view authors). Rhoddir testun y dudalen ar gael ar delerau'r drwydded CC BY-SA 4.0, heblaw ei fod wedi nodi'n wahanol. Images, videos and audio are available under their respective licenses.
®Wikipedia is a registered trademark of the Wiki Foundation, Inc. Wiki Cymraeg (DUHOCTRUNGQUOC.VN) is an independent company and has no affiliation with Wiki Foundation.