Llyn yng ngogledd yr Eidal yw Llyn Como (Eidaleg: Lago di Como neu Lario).
Gydag arwynebedd o 146 km², ef yw ail lyn yr Eidal o ran maint. Mae'n 410 medr o ddyfnder yn ei ran ddyfnaf, ac felly dyma'r llyn dyfnaf yr Eidal.
Math | glacial lake |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Rhan o'r canlynol | Northern Italian lakes |
Gwlad | Yr Eidal |
Arwynebedd | 145 km² |
Uwch y môr | 198 metr |
Cyfesurynnau | 46°N 9.2667°E |
Dalgylch | 4,572 cilometr sgwâr |
Hyd | 46 cilometr |
Cadwyn fynydd | Alpau |
Saif y llyn ger Llyn Maggiore a Llyn Lugano, mewn ardal fynyddig, yn agos i'r ffin â'r Swistir, 198 medr uwch lefel y môr. Yr uchaf o'r mynyddoedd o'i gylch yw Monte Legnone (2609 m).
Yr afon fwyaf sy'n llifo i'r llyn yw afon Adda, sy'n dod i mewn iddo yn y gogledd, ger Colico ac yn llifo allan yn y de-ddwyrain ger Lecco.
Ceir ynys fechan, Isola Comacina, yn y llyn.
Y dref fwyaf ar lan y llyn yw Como. Ynhlith y trefi eraill y mae Cernobbio, Gravedona, Bellano, Varenna, Bellagio a Menaggio. Mae cymunedau Varenna, Lierna, Bellagio, Menaggio, Limonta a Tremezzo, sy'n cynnwys y pentrefi sydd â golygfa o benrhyn Bellagio, yn ffurfio’r ardal ddaearegol o Centro Lago, sy'n cael ei hystyried fel y rhan fwyaf dethol o Llyn Como.
This article uses material from the Wikipedia Cymraeg article Llyn Como, which is released under the Creative Commons Attribution-ShareAlike 3.0 license ("CC BY-SA 3.0"); additional terms may apply (view authors). Rhoddir testun y dudalen ar gael ar delerau'r drwydded CC BY-SA 4.0, heblaw ei fod wedi nodi'n wahanol. Images, videos and audio are available under their respective licenses.
®Wikipedia is a registered trademark of the Wiki Foundation, Inc. Wiki Cymraeg (DUHOCTRUNGQUOC.VN) is an independent company and has no affiliation with Wiki Foundation.